
Tyfu pwmpenni ym Mhen Llŷn
Dylan Evans o Fferm Tŷ Cynan ym Mhen Llŷn sy'n sôn am dyfu pwmpenni ar gyfer Calan Gaeaf. Dylan Evans from Rhydyclafdy discusses diversifying into growing pumpkins for Halloween.
Dylan Evans o Fferm Tŷ Cynan yn Rhydyclafdy, Pen Llŷn sy'n sôn am dyfu pwmpenni ar gyfer Calan Gaeaf, a sut flwyddyn yw hi wedi bod ar gyfer eu tyfu.
Sgwrs hefyd gyda Carys Owen o Glwb Ffermwyr Ifanc Abergwaun sydd yn ddiweddar wedi ennill gwobr Stocmon Hŷn y Flwyddyn gyda mudiad yr NFYFC, a hithau heb gefndir amaethyddol o gwbl.
Y waliwr cerrig sych o Landyrnog, Barney Murray sy'n trafod ei waith, a sut y mae'n cadw'r hen draddodiad yn fyw yn Sir Ddinbych.
Megan Williams sydd â rhagolygon y tywydd am y mis i ddod, ac Aled Morgan Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Undeb Amaethwyr Cymru, sy'n adolygu'r straeon amaethyddol yn y wasg yr wythnos hon.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Sul 26 Hyd 202507:00BBC Radio Cymru
- Sul 26 Hyd 202515:30BBC Radio Cymru