Triongl
Comedi tywyll gan Iestyn Arwel am driongl Aberllydan - hanes grŵp o blant ysgol a welodd UFO yn 1977. Comedy by Iestyn Arwel about the Aberllydan Triangle and a UFO sighting.
Comedi tywyll gan Iestyn Arwel am driongl Aberllydan.
Yn 1977 dywedodd grŵp o blant ysgol eu bod wedi gweld UFO rhyfedd mewn cae ger eu hysgol.
Ar ôl dod â'r plant nôl i mewn, arweiniodd y prifathro nhw i'r neuadd i eistedd wrth ddesgiau unigol, gan ofyn iddyn nhw dynnu llun o be welson nhw ac ysgrifennu disgrifiad. Roedd pob un llun, a disgrifiad, yr union yr un peth. Hyd heddiw mae hyn dal yn anesboniadwy.
Yn y ddrama, 'Y Triongl', rydyn ni'n cwrdd â thri o'r disgyblion yna, 40 mlynedd yn ddiweddarach mewn aduniad ysgol gan weld yr effaith cafodd y digwyddiad arnyn nhw.
Cast:
Ifan Huw Dafydd
Nia Caron
Ioan Hefin
Iestyn Arwel
Alexandra Roach
Image/ Llun: Getty/ Elpidio Orsomando
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 13 Gorff 202514:30BBC Radio Cymru
- Gwen 15 Awst 202514:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
