Main content

Iona Roberts

Beti George yn holi Iona Roberts. Beti George chats with Iona Roberts.

Iona Roberts, neu Iona Pen Ffridd i bawb sy’n ei hadnabod yw gwestai Beti a'i Phobol.

Mae Iona yn ffarmwraig ac yn gadwraethwr, mae'n hyfforddwr yoga, yn gyn warden gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn fam i 3 o blant (Nel, Nedw a Joe) a gwraig i John. Mae hi hefyd yn rhedeg rasys Iron Man.

Ganwyd ar fferm Pen Ffridd, Penmachno (pentref ger Betws y Coed, yn Sir Conwy). Cafodd ei magu gyda'i Nain a'i Thaid a 3 ewythr oedd yn adnabyddus yn yr ardal sef Ifor, Elw a Hyw.

"Tyfais fyny yma ym Mhen Ffridd, gyda digon o ryddid ac awyr iach, erbyn hyn dwi'n deall pa mor unigryw oedd fy magwraeth erbyn hyn!"
Bu'n gweithio yn Llundain am gyfnod gyda chwmni Saatchi and Saatchi ac yn Wimbledon ble daeth ar draws Pat Cash. Ond dychwelyd i ffermio gwnaeth hi i Pen Ffridd, ac mae'n angerddol am amaethu mewn dull cynaliadwy.

Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae'n dewis caneuon sydd yn ffefrynnau gan gynnwys Meic Stevens – Gwenllïan. Dyma’r gân oedd yn chwarae pan gerddodd Iona mewn i’r gwasanaeth priodas.

Ar gael nawr

49 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 24 Gorff 202518:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Meic Stevens

    Gwenllian

    • Dim Ond Cysgodion Y Baledi.
    • SAIN.
    • 6.
  • Giacomo Puccini

    O mio babbino caro

  • Gruff Rhys

    Gwn Mi Wn

  • Dolly Parton

    Jolene

    • Million Sellers Vol.15 - The Seventie.
    • Disky.

Darllediadau

  • Sul 18 Mai 202518:00
  • Iau 22 Mai 202518:00
  • Sul 20 Gorff 202518:00
  • Iau 24 Gorff 202518:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad