Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Pigion y Flwyddyn

Terwyn Davies sy'n cyflwyno pigion o eitemau ddarlledwyd yn y gyfres yn ystod 2022. Terwyn Davies presents a selection of items featured in the series in 2022.

Ar ddechrau blwyddyn newydd, Terwyn Davies sy'n cyflwyno pigion o eitemau ddarlledwyd ar Troi'r Tir yn ystod 2022:

Cyfle eto i glywed Helen Williams o Fridfa Seiont ger Caernarfon a hanes y cobyn Cymreig, Seiont Arthur, gafodd ei werthu i gwpwl yn Oregon yn UDA;

Hefyd, stori Esmor Davies o Fwcle yn Sir y Fflint oedd wedi adnewyddu hen JCB er cof am ei ferch, Christine;

Cyfle i glywed am daith motobeics go arbennig gynhaliwyd ym Mhontrhydygroes i godi arian at achos da:

A Rhodri Davies, gohebydd y Bwletin Amaeth ar BBC Radio Cymru, sy'n crynhoi rhai o brif benawdau'r flwyddyn yn y wasg amaethyddol.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 2 Ion 202318:00

Darllediadau

  • Dydd Calan 202307:00
  • Llun 2 Ion 202318:00