Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Atgofion o'r Nadolig yng nghefn gwlad

Mae Terwyn Davies yn clywed atgofion o'r Nadolig gan rai o gymeriadau cefn gwlad Cymru. Terwyn Davies chats to some of Wales' rural characters about their Christmas memories.

Mae Terwyn Davies yn clywed atgofion o'r Nadolig gan rai o gymeriadau cefn gwlad Cymru.

Cyfle i glywed atgofion Nadoligaidd o blentyndod Winnie James-Phillips o Grymych, y ffermwr Tom Tudor o Lanerfyl, a Gwyn Jones sy'n rhedeg siop yn y Bala.

Hefyd, Bessie Edwards o Gribyn ger Llanbedr-Pont-Steffan, sy'n gant oed, yn sôn am ei hatgofion pan yn blentyn yng nghefn gwlad Ceredigion.

A Llŷr Griffiths-Davies sy'n rhoi'r rhagolygon diweddaraf o ran y tywydd sydd i ddod dros yr Ŵyl.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 18 Rhag 202207:00

Darllediad

  • Sul 18 Rhag 202207:00