Main content

Cofio Butlin's Pwllheli
75 mlynedd ers i Butlin's agor ym Mhwllheli, Ffion Emyr sy’n olrhain hanes y gwersyll. 75 years since Butlin's opened in Pwllheli, Ffion Emyr reminisces about the holiday camp.
Mae’n 75 mlynedd ers i wersyll eiconig Butlin's agor ym Mhwllheli, ac fel un a oedd yn arfer mynd yno fel plentyn, mae gan y gantores a’r cyflwynydd Ffion Emyr ddiddordeb mawr yn y gwersyll.
Mewn rhaglen arbennig, mae Ffion yn olrhain ychydig o hanes y gwersyll, ac yn sgwrsio gyda nifer a oedd yn gweithio yno, a rhai a oedd yn mynd ar wyliau yno.
Cawn glywed am y cotiau coch a’r cystadleuthau ‘glamorous Granny’, y gwahanol swyddi roedd rhai o bobl yn ardal yn eu gwneud yno, a’r tân mawr a ddigwyddodd ym 1973. A thybed sut ddyn oedd Billy Butlin ei hun?
Darllediad diwethaf
Llun 2 Ion 202318:30
BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
Darllediadau
- Sul 22 Mai 202218:30BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
- Mer 25 Mai 202218:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
- Dydd Calan 202308:00BBC Radio Cymru
- Llun 2 Ion 202318:30BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru