Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y nofelydd Geraint Lewis, opera, sioe "Petula" a'r dramodwyr Ian Rowlands a Daf James. The novelist Geraint Lewis, opera news, the play Petula, writers Ian Rowlands and Daf James.

“Petula” yw enw cyd-gynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol a National Theatre Wales ac mae Nia Roberts yn ymweld â’r stafell ymarfer er mwyn sgwrsio efo rhai o gast y sioe. Hefyd, mae’r awdur Daf James yn sgwrsio am yr her oedd yn ei wynebu wrth iddo fynd i’r afael efo gwaith y dramodydd Ffrengig Fabrice Molquiot ac addasu’r ddrama ar gyfer llwyfannau Cymru.
Yn ei nofel ddiweddaraf “Lloerig”, mae Geraint Lewis yn dilyn llîf meddwl mam wrth iddi ddod i delerau efo hunan laddiad ei mab, ac mae’r awdur yn egluro wrth Catrin Beard pam iddo benderfynu portreadu sefyllfa mor anodd.
Catrin Gerallt sy’n adolygu dau o gynhyrchiadau’r Cwmni Opera Cenedlaethol ar gyfer tymor y Gwanwyn, ac mae’r dramodydd Ian Rowlands yn sgwrsio am ei brofiad diweddar o weld ei ddrama “Water Wars”, drama arswydys am Gymru’r dyfodol, yn cael ei pherfformio yn Rhufain.

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 14 Maw 202221:00

Darllediad

  • Llun 14 Maw 202221:00