Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Drama newydd ar ffurf podlediad

Lisa Parry yn sôn am ddrama newydd ar ffurf podlediad sy’n edrych ar bwysigrwydd geneteg. Lisa Parry discusses a new podcast drama about genetics.

Yn y rhaglen hon mae Nia Roberts yn sgwrsio efo'r dramodydd Lisa Parry am ddrama newydd ar ffurf podlediad sy’n edrych ar bwysigrwydd geneteg, ac mae'r delynores Eira Lynn Jones yn trafod sut yr aeth ati i gyfansoddi darn yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad.

Elinor Gwynn sy'n edrych ar dair arddangosfa gelf wahanol sydd i’w gweld yn Rhuthun ar hyn o bryd.

“Am ddrama” di enw prosiect newydd gan y Theatr Genedlaethol ar gyfer darpar awduron, a Melangell Dolma sy'n ymuno i egluro’r cyfan, ac mae'r actores Leah Gaffey yn trafod sut y mae bywydau rhai o Ieuenctid Môn yn cael ei botreadu ar lwyfan y National Theatre yn Llundain mewn drama uchelgeisiol newydd.

Hefyd, mae Nia'n ymweld efo Oriel Canfas yng Nghaerdydd ac yn sgwrsio efo'r artist Anthony Evans am ei arddangosfa newydd "Brwydro Ymlaen".

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 14 Chwef 202221:00

Darllediad

  • Llun 14 Chwef 202221:00