
Cerrig yn Siarad
Tu ôl pob englyn sydd wedi'i gerfio ar garreg fedd, mae 'na stori. Ifor ap Glyn sy'n dathlu'r arfer unigryw Cymreig 'ma. Interesting stories behind englynion carved on gravestones.
Un o arferion hynod y Cymry yw cerfio englynion ar gerrig beddi - mae o leiaf 25 mil ohonynt o gwmpas y byd, ac mae rhai cannoedd o bobl yn ceisio'u cofnodi cyn iddynt gael eu herydu gan y tywydd.
Yn y rhaglen hon mae Ifor ap Glyn yn mynd ar drywydd rhai o'r straeon mwyaf diddorol tu ôl i'r englynion hyn, gan siarad ag arbenigwyr fel Guto Rhys a Gwen Awbery sydd wedi bod wrthi'n eu casglu, y saer maen Hedd Bleddyn sydd wedi cerfio cannoedd ohonynt a'r Prifardd Mererid Hopwood.
Cawn ddysgu ymhlith pethau eraill, lle mae'r englyn bedd ucha'n y byd, yr un hynaf, a'r un mwyaf smala (mae lle i hiwmor hyd yn oed, ar ambell garreg fedd!)
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 14 Tach 202118:30BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
- Mer 17 Tach 202118:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
- Sul 24 Gorff 202218:30BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
- Mer 27 Gorff 202218:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru