Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cyfres ddrama newydd 'The Pact'

Sylw i gyfres ddrama newydd 'The Pact', wedi ei chynhyrchu yng Nghymru. A look at a new drama series 'The Pact', produced in Wales.

Mae “The Pact” yn gyfres ddrama newydd sbon sydd wedi ei chynhyrchu yng Nghymru a fydd i'w gweld ar BBC1 cyn hir, ac mae Nia Roberts yn clywed y cyfan am y gyfres gan rhai o'i sêr. Hefyd, sylw i raglen newydd Theatr Clwyd a chyfle i ddal i fyny efo'r Criw Brwd a'r Theatr Genedlaethol wrth iddynt ail-afael yn y ddrama "Pryd Mae'r Haf?", cynhyrchiad ddaeth i ben y llynedd oherwydd y clô mawr. Sgwrs hefyd efo’r cerddor a’r cyfansoddwr Owain Llwyd sydd wedi goresgyn cyfnod o rwystredigaeth greadigol dros y flwyddyn ddiwethaf.

1 awr

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Owain Llwyd

    Tea Bag 14

    • Tea Bag Scores.
    • Owain Llwyd.

Darllediad

  • Llun 10 Mai 202121:00