
Cyfaill Carcharorion
Rhaglen yn olrhain hanes y diwygiwr carchardai, yr heddychwr a’r dyngarwr Merfyn Turner. Seeking the history of the prison reformer, pacifist and humanitarian, Merfyn Turner.
Rhaglen yn olrhain bywyd a gwaith y diwygiwr carchar, yr heddychwr a’r dyngarwr Merfyn Turner. Roedd yn gweithio gyda chyn garcharorion, rheiny oedd yn gaeth i alcohol a'r digartref yn Llundain o’r 50au hyd yr 80au.
Clywir sut y sefydlodd y tŷ hanner ffordd cyntaf ym Mhrydain i gyn garcharorion, a sut aeth ati i geisio atal ail-droseddi drwy gynnig cartref sefydlog i'r rheiny oedd wedi eu rhyddhau o garchar.
Vaughan Roderick sydd yn disgrifio sut bu i'w famgu a thadcu gynnig lloches i Turner adeg ei ryddhau o garchar fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ac mae Dr. Llion Wigley yn esbonio'r hyn oedd yn gyrru Turner i helpu eraill, ag effaith negyddol carchar ar unigolion bregus.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 18 Hyd 202018:30BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
- Llun 5 Ebr 202117:30BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2