Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Teyrnged i’r cyfarwyddwr Terry Hands, a thrafod dau gynhyrchiad theatr newydd. A look at the arts in Wales and beyond.

“Pryd Mae’r Haf?” yw cynhyrchiad cyntaf y Theatr Genedlaethol a’r Criw Brwd, ac mae Nia Roberts yn ymweld efo’r ystafell ymarfer wrth i’r cast ifanc baratoi ar gyfer perfformio o addasiad Gwawr Loader o'r ddrama wreiddiol Chloe Moss. Hefyd adolygiad gan Ion Thomas.

Teyrnged i’r diweddar Terry Hands, cyfarwyddwr theatr llwyddiannus a dylanwadol a fu’n weithgar efo’r Royal Shakespeare Company cyn gadael ei farc ar gynyrchiadau Theatr Clwyd.

Ac mae'r actorion Gareth John Bale a Gwenllian Higginson yn sgwrsio am daith y ddrama “West”, cynhyrchiad sydd eisoes wedi derbyn croeso gwresog gan gynulleidfa yn America ac sydd ar gychwyn teithio Cymru.

58 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 10 Chwef 202018:00

Darllediad

  • Llun 10 Chwef 202018:00