Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

BBC,8 mins

Julian Lewis Jones yn cofio'r diweddar Terry Hands.

Stiwdio gyda Nia Roberts

Available for over a year

Bu Terry Hands, a fu farw ar Chwefror y 4ydd 2020 yn 79 mlwydd oed, yn gymeriad pwysig yn hanes y theatr ym Mhrydain . Ef oedd sylfaenydd yr Everyman Theatre yn Lerpwl yn ogystal a chyfnod cynhyrchiol iawn gyda'r Royal Shakespere Company. Ym 1997 cafodd alwad gan gygor Sir Fflint yn gofyn iddo greu cynllun fyddai'n achub Theatr Clwyd, a oedd ar y pryd yn gwynebu dyfodol ansicr iawn. Bu Hands yno tan 2015, gan wirdroi hanes y theatr a chreu cwmni sydd erbyn hyn yn adnabyddus am gcreu gwaith gwreiddiol o safon yn ogystal â llwyfanu’r clasuron. Yn hanfodol i lwyddiant y cwmni, bu Hands yn gyfrifol am greu cwmni preswyl o actorion Cymraeg, ac ym mysg y criw cyntaf oedd yr actor Julian Lewis Jones, ac fel mae’n egluro ar Stiwdio, mae Julian yn ystyried Terry Hands fel ffigwr holl-bwysig yn natblygiad ei yrfa fel actor.

Programme Website
More episodes