
27/01/2020
Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.
Y cyfarwyddwr a’r perfformiwr Daniel Evans yw un o westeion Nia Roberts i drafod ei waith fel cyfarwyddwr artsistig y Chichester Festival Theatre.
Myfanwy Alexander sy’n sgwrsio efo Catrin Beard wythnos yma, a hynny am ei nofel ddiweddaraf “Mynd Fel Bom”.
“Tecstiliau Cynaliadwy” ydi thema yr arddangosfa ddiweddaraf i agor yn Oriel Môn, Llangefni, ac mae Nia yn cael ei thywys o amgylch yr arddangosfa gan Ian Jones, Rheolwr Casgliadau’r Oriel ac yn clywed am sut mae’r casgliad eang o decstiliau sydd yno yn gallu dysgu gwersi pwysig i ni heddiw am sut y dylwn brynu dillad.
Hefyd, mae’r awduron Grug Muse ac Ifan Morgan Jones yn trafod y syniad o hunan gyhoeddi, gan sgwrsio am rinweddau a gwendidau gwneud y cyfan eich hunain, yn hytrach na chyhoeddi drwy wasg draddodiadol.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 27 Ion 202018:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2