
20/01/2020
Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.
Mae Nia’n cael cwmni’r cyfarwyddwr Euros Lyn i drafod ei ffilm newydd “Dream Horse” sydd ar fin cael dangosiad yng Ngŵyl Ffilm Sundance yn America cyn cael ei ryddhau ym Mhrydain ddechrau Ebrill. Yr actores Toni Collette sy’n chwarae'r brif ran ac mae’r ffilm yn olrhain hanes go iawn criw o ffrindiau a benderfynodd hyfforddi ceffyl rasio mewn pentref yn un o gymoedd De Cymru.
Pwysigrwydd yr ysgoloriaethau sy’n cael eu cynnig gan Llenyddiaeth Cymru ar gyfer awduron ifanc sy’n cael sylw Catrin Beard, sy'n sgwrsio efo Branwen Llewellyn, Llio Maddocks a Siân Northey am werth ysgoloriaethau o'r fath.
Hefyd mae Nia yn sgwrsio efo Geraint Lewis am gyngerdd arbennig o waith Beethoven a gynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, fel rhan o’r dathliadau yn nodi geni’r cyfansoddwr ddau gant a hanner o flynyddoedd yn ôl.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 20 Ion 202018:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2