
Ceisio stopio'r prif weinidog newydd rhag atal y Senedd
Trafodaeth ar ASau yn cefnogi ceisio stopio'r prif weinidog newydd rhag atal y Senedd. A discussion on MPs backing a bid to stop the new prime minister suspending Parliament.
Ddyddiau cyn i olynydd Theresa May gael ei gadarnhau, mae Aelodau Seneddol wedi cefnogi ymgais i geisio stopio'r prif weinidog newydd rhag atal y Senedd. Yn wahanol i Jeremy Hunt, dyw Boris Johnson ddim wedi diystyru'r posibilrwydd hwnnw, er mwyn gorfodi Brexit heb gytundeb. Beth yw barn y panel?
Trafodaeth hefyd ar y brotest amgylcheddol yng nghanol Caerdydd. Tynnu sylw at y newid yn yr hinsawdd oedd y nod, gan alw ar lywodraethau Cymru a Phrydain i weithredu ar frys, ond a ddylid fod wedi caniatáu y fath anhrefn yn y briddinas?
Llŷr Powell, Anna Brychan ac Alan Davies sy'n ymuno â Vaughan Roderick.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Gwen 19 Gorff 201912:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.
