
Cadw Cyfrinach
Stori dyn ifanc yn rhannu'r profiad o gael ei gamdrin yn rhywiol, gan achub ei fywyd. A man sexually abused as a child says talking about the attack saved his life.
Naw oed oedd y dyn ifanc sydd i'w glywed yn y rhaglen hon pan gafodd ei gamdrin yn rhywiol. Am flynyddoedd, wnaeth o ddim dweud wrth unrhyw un am y profiad, ond roedd y cyfan yn fwrn arno'n feddyliol, a bu ond y dim iddo ddod â'i fywyd i ben. Yn lle hynny, penderfynodd ddatgelu'r cyfan.
Flwyddyn wedi i'r ymosodwr gael ei ddyfarnu'n euog mewn achos llys yng Nghaernarfon, mae'r dyn tair ar hugain oed - sydd ddim am i ni ddweud ei enw - yn adrodd ei stori am y tro cyntaf yn gyhoeddus, er mwyn annog pobl eraill i beidio â bod â chywilydd o wneud hynny. Mae'n dweud mai siarad a achubodd ei fywyd.
Darllediad diwethaf
Clip
![]()
Siarad wnaeth achub fy mywyd
Hyd: 00:56
Darllediadau
- Iau 27 Meh 201912:30BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
- Sul 30 Meh 201916:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
Podlediad
![]()
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.


