Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ffrae y Drwydded Deledu

Trafodaeth ar faterion gwleidyddol, gan gynnwys ffrae y Drwydded Deledu. Vaughan Roderick and guests discuss political matters, including the TV Licence controversy.

Wedi i'r BBC gyhoeddi na fydd hyd at 3.7m o bensiynwyr yn cael Trwydded Deledu am ddim o 2020 ymlaen, er mwyn arbed cannoedd o filiynau o bunnau'r flwyddyn, beth yw barn y panel? A yw hyn yn deg, fel y mae'r BBC yn ei honni, ynteu a yw'n ddyletswydd ar y BBC i barhau i gynnig y consesiwn yma i bawb dros 75 oed, fel y mae Llywodraeth Prydain yn ei ddadlau?

Mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn trafod ras arweinyddiaeth y Torïaid, wrth i Boris Johnson barhau i fod ymhell ar y blaen.

Rhodri ab Owen, Dr Carol Bell a'r Parchedig Aled Edwards sydd yn gwmni i Vaughan.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 14 Meh 201912:00

Darllediad

  • Gwen 14 Meh 201912:00

Podlediad