
Ail Gartrefi
A oes angen gwneud rhagor i reoli nifer yr ail gartrefi yng Nghymru? Should more be done to control the number of second homes in Wales?
Wrth i awdurdodau lleol Dinbych a Chonwy baratoi i godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi, gan ddod â chyfanswm y cynghorau Cymreig sy'n gwneud hyn i wyth, mae 'na bryder bod nifer cynyddol o berchnogion ail gartrefi'n cofrestru eu heiddo fel llety gwyliau, er mwyn osgoi unrhyw daliad i'r awdurdod lleol.
Fydd nifer ddim yn gorfod talu trethi busnes chwaith, oherwydd y gwerth trethiannol isel.
Mae'n sgandal, yn ôl un Aelod Cynulliad, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig arweiniad er mwyn datrys y sefyllfa.
Mae'r rhaglen hefyd yn clywed gan gynghorydd tref o Wynedd, sydd ar fin mynd i Gernyw i weld beth mae sawl tref ar yr arfodir yno'n ei wneud i geisio atal rhagor o ail gartrefi newydd.
Darllediad diwethaf
Clip
Darllediadau
- Iau 28 Chwef 201912:30BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
- Sul 3 Maw 201916:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
Podlediad
![]()
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.


