
Brexit a Chyngreswragedd America
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Brexit a chyngreswragedd America. Vaughan Roderick and guests discuss Brexit and America's congresswomen.
Wrth i Theresa May barhau i geisio dwyn perswâd ar yr Undeb Ewropeaidd i gytuno i newidiadau i gytundeb Brexit, mae Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod y diweddaraf, gan gynnwys y dadlau wedi i Donald Tusk awgrymu fod 'na le arbennig yn uffern i'r rhai hynny a oedd wedi hybu Brexit heb fod ganddyn nhw gynllun.
Trafodaeth hefyd ar gyngreswragedd America, ar ôl i'r Democratiaid wisgo dillad gwynion wrth fynychu araith fawr yr Arlywydd Trump ar gyflwr y genedl. Beth yw sefyllfa gwleidyddion benywaidd yr Unol Daleithiau yn yr unfed ganrif ar hugain?
Dr. Marion Loeffler, Heulyn Davies ac Angharad Mair sy'n gwmni i Vaughan.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Gwen 8 Chwef 201912:00BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.
