Main content

Brexit a Gwisg Ysgol
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Brexit a gwisg ysgol. Vaughan Roderick and guests discuss Brexit and school uniform.
Wythnos a hanner cyn y bleidlais fawr, faint o ddyfodol sydd i gytundeb Brexit Theresa May? Mae'r Prif Weinidog wedi bod ar dipyn o grwydr, gan gynnwys ymweliad â'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd, ond faint o wahaniaeth mae'r holl deithio'n ei wneud i'w gobeithion o gael sêl bendith Tŷ'r Cyffredin ar yr unfed ar ddeg o Ragfyr?
Mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn trafod gwisg ysgol, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau newydd.
Guto Ifan, Siân James a Casia Wiliam sy'n ymuno â Vaughan.
Darllediad diwethaf
Gwen 30 Tach 201812:00
BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
Darllediad
- Gwen 30 Tach 201812:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
Podlediad
![]()
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.
