Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Rhyfelgan

Caneuon Cymraeg o'r Rhyfel Mawr, ynghyd â monologau o waith Aled Jones Williams. Welsh songs from the Great War, along with monologues written by Aled Jones Williams.

Mae Radio Cymru'n cofio'r Rhyfel Mawr trwy gyfrwng caneuon Cymraeg o'r cyfnod.

Yn perfformio mae Shân Cothi, Siân James, Trystan Llŷr Griffiths a Rhys Meirion, ynghyd â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Law yn llaw â'r caneuon, mae rhai o leisiau cyfarwydd Radio Cymru'n adrodd monologau o waith Aled Jones Williams, gan ddod â phrofiadau pobl yn fyw.

Fersiwn ychydig yn fyrrach yw hon o raglen y 9fed o Dachwedd, 2018.

1 awr, 26 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 11 Tach 201811:35

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Shân Cothi, Trystan Llŷr Griffiths & Rhys Meirion

    Oll I'r Gad (Hen Wlad Fy Nhadau)

  • Shân Cothi

    Chwi Feibion Ffrainc I'r Gad, Cyfodwch (La Marseillaise)

  • Trystan Llŷr Griffiths & Rhys Meirion

    Y Caisar Cas O Brwsia (Bonheddwr Mawr O'r Bala)

  • Shân Cothi

    Cymru Fydd Yn Gymru Rydd (Keep The Home Fires Burning)

  • Siân James

    Cyflwynedig I Ifan Pantco'd Ar Ei Ymadawiad (I Blas Gogerddan)

  • Shân Cothi, Trystan Llŷr Griffiths & Rhys Meirion

    Gweddi Dros Y Milwyr A'r Morwyr (Capel Y Ddol)

  • Trystan Llŷr Griffiths

    Mae'r Ffordd Yn Hir I Aberaeron (It's A Long Way To Tipperary)

  • Siân James

    Margarine (Y Mochyn Du)

  • Trystan Llŷr Griffiths & Rhys Meirion

    Y Kaiser (When Johnny Comes Marching Home)

  • Rhys Meirion

    Cân Yng Ngharchar (Ar Hyd Y Nos)

  • Trystan Llŷr Griffiths

    Bedd Yng Ngwlad Y Gelyn (Toriad Y Dydd)

  • Shân Cothi, Trystan Llŷr Griffiths & Rhys Meirion

    I'r Cymro Sydd Wrth Y Llyw (Ar Gyfer Heddiw'r Bore)

  • Siân James

    Cân I Enoch (Merch Y Melinydd)

  • Trystan Llŷr Griffiths & Rhys Meirion

    Mae'r Kaiser Wedi Ffoi (Llwyn Onn)

  • Shân Cothi

    Y Tŷ Heb Un Fflag (Bendithiaist Goed Y Meysydd)

Darllediad

  • Sul 11 Tach 201811:35