Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Brexit i Bump

Pump o bobl yn trafod dyfodol y diwydiant amaeth, naw mis cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nine months before leaving the EU, five people discuss the future of Welsh farming.

Naw mis cyn i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, mae 'na rybudd gan academydd blaenllaw bod angen i amaethwyr Cymru baratoi ar gyfer newid. Yn ôl yr Athro Wynne Jones, cyn-bennaeth Coleg Amaeth Harper Adams, dydi gwneud dim byd ddim yn opsiwn. Mae'n ffyddiog, serch hynny, y bydd ffermwyr Cymru'n medru ymdopi.

Mae Cyfarwyddwr Amaeth HSBC yng Nghymru a de-orllewin Lloegr hefyd yn ffyddiog. Yn ôl Euryn Jones, mae safon uchel y bobl ifanc sy'n dod yn rhan o'r diwydiant ar hyn o bryd yn golygu y bydd amaeth yng Nghymru yn goroesi.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys barn tri o ffermwyr, sef Caryl Haf Jones o Landdewi Brefi, Rhodri Griffiths o Lanilar, a Paul Williams o Bentrefoelas.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 8 Gorff 201816:00

Clip

Darllediadau

  • Iau 5 Gorff 201812:30
  • Sul 8 Gorff 201816:00

Podlediad Manylu

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad