Main content

Boneddigion
John Hardy gydag archif, atgof a chân yn ymwneud â boneddigion. John Hardy focuses on gentlefolk on this visit to the Radio Cymru archive.
John Hardy gydag archif, atgof a chân yn ymwneud â boneddigion, gan gynnwys Tegeryn Prytherch Jones yn sôn am ei gyfaill lliwgar, yr Arglwydd Caerfaddon.
Fe glywn am Syr Thomas Duncombe Love Jones-Parry. Roedd sgweiar Stâd Madryn, Pen Llŷn, yn wleidydd amlwg yn ei ddydd, ynghyd â bod yn dipyn o dderyn.
Blodwen Evans o Gricieth sy'n sôn am weini yn Downing Street pan oedd Lloyd George yn brif weinidog, wrth i Mary Elizabeth Jones sgwrsio am wasanaethu teulu bonedd yn Lerpwl ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Hefyd, Islwyn Ffowc Elis yn sôn am sgwennu ei lyfrau, Cysgod y Cryman ac Yn Ôl i Leifior.
Darllediad diwethaf
Mer 18 Hyd 201718:00
BBC Radio Cymru
Darllediadau
- Sul 15 Hyd 201713:00BBC Radio Cymru
- Mer 18 Hyd 201718:00BBC Radio Cymru