
Y Cymro a'r Wasg Gymraeg
A oes dyfodol i bapur cenedlaethol Y Cymro a'r wasg newyddiadurol Gymraeg? Manylu asks what the future holds for Welsh language journalism as its national newspaper faces closure.
Wrth i'r rhifyn olaf o'r Cymro ar ei wedd bresennol gael ei gyhoeddi, Manylu sy'n holi beth yw dyfodol y wasg newyddiadurol Gymraeg.
Mae'r rhaglen yn dilyn criw bychan sydd wedi dod at ei gilydd i geisio prynu'r unig bapur newydd cenedlaethol Cymraeg gan gwmni Tindle. Ond mewn cyfnod anodd iawn i'r diwydiant, sut maen nhw'n gobeithio achub y papur a gafodd ei sefydlu yn 1932?
Mae Manylu yn clywed gan gyn-newyddiadurwr a fu'n gweithio ar Y Cymro pan oedd y papur yn fwy llwyddiannus, ac yn gofyn sut mae cylchgrawn Golwg wedi llwyddo i gadw darllenwyr a newyddiadurwyr ers tri deg mlynedd - yn groes i'r hyn sy'n digwydd mewn papurau ar draws Prydain a thu hwnt.
Wrth i nifer ragweld dyfodol du i'r diwydiant, mae eraill yn dadlau bod y ffigurau'n dangos ein bod yn byw mewn oes aur arall i newyddiaduraeth Gymraeg - boed Y Cymro'n cael ei achub ai peidio.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Iau 29 Meh 201712:30BBC Radio Cymru
- Sul 2 Gorff 201716:00BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.


