Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dathlu Cymreictod

John Hardy yn dathlu Cymreictod gyda chymorth archif, atgof a chân. John Hardy celebrates Welshness on this visit to the Radio Cymru archive.

Mae'r cewri i gyd yn y rhaglen hon wrth i John Hardy ddathlu Cymru, Cymreictod a'n nawddsant.

Yr Athro Hywel Teifi Edwards sy'n sôn am Dewi Sant, a mwynhewch Syr T H Parry Williams yn darllen ei gerdd Hon.

Mae Jac a Wil yn cofio perfformio mewn cyngerdd Gŵyl Ddewi yn yr Albert Hall yn Llundain, Dr Elin Jones yn mynd â ni ar ymweliad ag Eglwys Llanddewi Brefi, a Gerallt Lloyd Owen yn gwirioni ar gerdd gan Elin Haf Gruffydd Jones ar Y Talwrn yn 1998.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 27 Chwef 202214:00

Darllediadau

  • Sul 26 Chwef 201713:00
  • Mer 1 Maw 201718:00
  • Sul 27 Chwef 202214:00