Main content

Argyfwng Meddygon Teulu
A oes digon yn cael ei wneud yng Nghymru i feithrin meddygon y dyfodol? Manylu asks if enough is being done in Wales to train future doctors.
Un ysgol feddygaeth sydd yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr israddedig, ond mae Manylu wedi darganfod mai dim ond 25% o fyfyrwyr Cymreig a gafodd eu derbyn i Ysgol Feddygaeth Caerdydd eleni. Yn Yr Alban, ar y llaw arall, mae 60% o fyfyrwyr meddygaeth prifysgolion Glasgow a Dundee yn fyfyrwyr cartref, a 55% yng Nghaeredin.
Gyda Chymru'n wynebu argyfwng meddygon teulu, mae Manylu'n gofyn a oes digon yn cael ei wneud yn y wlad hon i hyfforddi meddygon y dyfodol.
Cyflwynydd: Ioan Wyn Evans.
Darllediad diwethaf
Sul 27 Tach 201616:00
BBC Radio Cymru
Clip
Darllediadau
- Iau 24 Tach 201612:30BBC Radio Cymru
- Sul 27 Tach 201616:00BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.


