Main content

Bob Tai'r Felin

Llŷr Gwyn Lewis yn sgwrsio gyda phobl am y canwr gwerin a'r baledwr, Bob Tai'r Felin. Memories of Bob 'Tai'r Felin' Roberts, a miller who became a singing sensation.

Melinwr ac amaethwr a dreuliodd ei oes ar aelwyd Tai'r Felin yng Nghwm Tir Mynach ger Y Bala oedd Bob Roberts, ond daeth yn ganwr a baledwr enwog gydag apêl tebyg i ganwr pop diolch i gyfres radio Noson Lawen.

Llais pellennig ar hen record yn canu'n llawn hwyl ac arddeliad oedd unig argraff Llŷr Gwyn Lewis ohono cyn iddo ddechrau sgwrsio â rhai o'r bobl a gafodd y fraint o'i nabod.

Mae Dafydd Iwan yn sôn amdano'n creu argraff arno pan oedd ond yn blentyn bach, a'r cyffro yr oedd o'n ei deimlo wrth i Bob Roberts ddod i Frynaman i berfformio.

Mae Carys Jones o Roslan ger Cricieth yn medru rhannu atgofion personol ac amhrisiadwy iawn ohono fel taid. Er ei bod hi'n ifanc iawn pan fu farw yn 1951, mae'n ei gofio'n ei gwarchod ac yn canu wrth wneud.

Un arall sy'n dwyn i gof yng nghwmni Llŷr ydi Cledwyn Jones o Driawd y Coleg. Mae yntau hefyd yn sôn am garisma Bob Tai'r Felin, a'r ffaith ei fod yn denu merched fel gwenyn i bot jam!

Cawn flas ar ei ddireidi, cynhesrwydd a dawn, a syniad da o'i apêl arbennig ledled Cymru'n ystod ail hanner y 1940au.

Ar gael nawr

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 5 Ebr 201812:30

Darllediadau

  • Gwen 28 Hyd 201612:30
  • Gŵyl San Steffan 201618:00
  • Iau 5 Ebr 201812:30