Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,04 Nov 2016,30 mins

Norah Isaac

Dwyn i Gof

Available for over a year

Mae'n addas iawn mai Llwybrau oedd enw cartref Norah Isaac o ystyried iddi droedio sawl llwybr a gadael ei hôl yn drwm ar bob un ohonyn nhw. Yn y rhaglen hon, mae Llŷr Gwyn Lewis yn cael darlun clir ohoni fel dynes egnïol a phenderfynol, ond caredig a dylanwadol hefyd. Mae'n cael cwmni John Meredith, un o ddisgyblion cyntaf yr ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru, sydd ag atgofion melys iawn ohoni fel prifathrawes yn cadw trefn yn Ysgol Gymraeg yr Urdd yn Aberystwyth. Mae hefyd yn clywed am ei dylanwad ar genedlaethau o fyfyrwyr, gan gynnwys Iestyn Garlick a Cefin Roberts. Oedd, roedd yn medru dychryn pobl, ond mae'n amlwg fod y ddau yn meddwl y byd ohoni. Doedd y Prifardd Mererid Hopwood ddim yn un o'i myfyrwyr, ond daeth y ddwy yn ffrindiau agos yng Nghaerfyrddin. Yn wir, doedd llun o Gadair hanesyddol Eisteddfod Genedlaethol 2001 ddim yn ddigon i Norah Isaac - roedd yn rhaid mynd â hi ati er mwyn iddi gael ei gweld â'i llygaid ei hun. Cawn ddarlun o ddynes a oedd yn eiddil o gorff, ond a oedd hefyd yn benderfynol o lynu wrth ei hegwyddorion a'i dulliau hi o ddysgu a dylanwadu ar y rhai o'i chwmpas.

Programme Website
More episodes