
Y diwydiant llaeth - ar y dibyn?
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.
Wrth i brisiau mae ffermwyr yn ei gael am eu cynnyrch ostwng yn gyflym yn y misoedd diwethaf ydi diwydiant llaeth Cymru ar y dibyn?
Mae Manylu yn clywed pryderon bod rhai amaethwyr yn wynebu trafferthion ariannol a mae un arweinydd uned yn galw am fwy o degwch yn y gadwyn gyflenwi.
Ond law yn llaw a phrisiau isel i ffermwyr mae llefrith yn cael ei werthu yn eithriadol o rad mewn archfarchnadoedd. Newyddion da i gwsmeriaid -- felly pwy sy'n cael yr elw?
Yn ôl pennaeth Hufenfa De Arfon yng Ngwynedd - sy'n cynhyrchu caws - mae na wasgu arnyn nw hefyd i werthu'r cynnyrch am bris rhatach i'r arfarchnadoedd.
A mae dyn llefrith o Landysul yn dweud wrth y rhaglen ei bod hi'n amhosib iddo fo gystadlu a'r archfarchnadoedd gan ofyn y cwestiwn am ba hyd y gall o oroesi.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Clip
Darllediadau
- Iau 20 Tach 201412:31BBC Radio Cymru
- Sul 23 Tach 201419:30BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.


