
"Y Thalidomide Cudd"?
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.
Mae galw am godi ymwybyddiaeth am sgil effeithiau cyffur a roddwyd i ferched beichiog ynghanol y ganrif ddiwethaf. Mae Diethylsbildestrol - neu "DES" - yn dal i effeithio ar unigolion hyd heddiw. Yn ôl rhai, dyma'r "thalidomide" cudd. Cudd am nad oes neb yn gweld ei sgil effeithiau, a chudd am nad oes fawr neb yn gwybod amdano.
Fe gafodd Dafydd Roberts ei eni yn mil naw pedwar pump, yn Llanfair, Harlech - y trydydd plentyn - ond yr unig un gafodd ei eni yn fyw. Yn ôl ei fam roedd y diolch am hynny i gyffur o'r enw Diethyl-Sbildestrol - DES - yr oestrogen synthetig cyntaf oedd yn cael ei farchnata fel cyffur gwyrthiol a fyddai'n osgoi erthyliad naturiol. Roedd cryfder y dôs dyddiol a roddwyd i rai mamau yr un faint a buasai cymeryd 700 o dabledi atal-cenhedlu heddiw.
"Dwi'n cofio mam yn deud ei bod yn cael injections pan yn fy nisgwyl hi, ac mi ddaru nhw y tric i fy nghael i, medda him, achos oedd hi wedi colli dau blentyn arall yn barod - yn stillbirth," meddai Mr Roberts.
Ond yn nwy fil ac un, pan yn bumdeg chwech oed, fe gafodd ddeiagnosis o diwmor ar ei chwaren - y pituitary gland. Cafodd lawdriniaeth a radiotherapi i'w drin. Bellach mae o'n credu bod ei diwmor yn gysylltiedig â'r cyffur gymerodd ei fam.
"Mae Diethylsbildestrol wedi cael ei ddosbarthu yn endocrine disruptor, sy’n golygu ei fod yn amharu ar glandiau'r corff sydd yn cynhyrchu hormonau. Mae'r pituitary yn un o brif glandiau'r corff, sydd yn cynhyrchu hormonau, ac yn cael ei alw yn Saesneg y “Master Gland.” Mae’r cyffur yn medru effeithio arno fo," meddai.
Ar ddechrau'r saithdegau codwyd amheuon am y cyffur ar ôl i ymchwil ddangos ei fod yn creu canser y groth neu'r fagina i rai o blant y mamau oedd wedi ei gymeryd. O ganlyniad fe gafodd meddygon eu cynghori i beidio a'i roi i ferched beichiog. Ar ben hynny roedd ymchwil oedd wedi ei gyhoeddi bron 20 mlynedd ynghynt wedi profi nad oedd DES yn gwneud yr hyn oedd i fod i'w wneud - sef lleihau'r risg o erthyliad naturiol. Y drafferth i Dafydd Roberts ydy nad oes ymchwil wedi ei wneud i weld a ydy DES yn gallu effeithio ar y chwarren bitẅidol, lle gafodd o ei diwmor. Er hynny mae tystiolaeth bod DES yn effeithio ar y system endocrinaidd - ac mae'r chwarren bitẅidol yn perthyn i'r system honno. Ynghyd â galw am ymchwil pellach ar effaith DES ar y chwaren bitẅidol, mae o'n flin nad oes mwy o ymwybyddiaeth am yr adroddiadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.
Manylu, ar BBC Radio Cymru gyda Anna-Marie Robinson dydd Iau, Mehefin 19 am 12.30 a dydd Llun Mehefin 23, am 18.55.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Iau 19 Meh 201412:31BBC Radio Cymru
- Llun 23 Meh 201418:55BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.


