
Robin McBryde a Caryl Thomas
Rhodri Ogwen Williams yn gwahodd gwesteion i rannu eu hatgofion trwy'r bwydydd sydd wedi chwarae rhan allweddol yn eu bywydau. Guests talk about foods important to their lives.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Lleoliad y pryd bwyd : Gwesty’r Arth ‘Bear’ yn y Bontfaen

Mae hanes y dafarn a'r gwesty hwn yn dyddio n'ol i'r ddeuddegfed ganrif. Mae'n fwy adnabyddus efallai fel y man ble byddai pobl yn aros tra roedd y ceffylau'n cael eu newid ar daith y goets fawr o Gaerdydd i Abertawe neu Lundain. Mae na son fod carcharorion yr ardal yn cael eu cadw yn y seler - sydd erbyn hyn yn stafell giniawa - cyn iddyn nhw gael eu crogi ar y tir comin uwchben y dref!
Dyma'r tro cyntaf i'r ddau westai Robin McBryde a Caryl Thomas gyfarfod ond dros bryd o fwyd, maent yn sylweddoli fod ganddynt lawer yn gyffredin. Mae pob cwrs wedi ei ddewis ganddyn nhw a hynny am yr atgofion sy'n gysylltiedig â'r bwyd.
Past Cyri Gwyrdd
12 tshili bach gwyrdd wedi eu torri
2 sialotsyn wedi eu torri
4 ewinedd garlleg wedi eu torri
darn modfedd o galangal neu sinsir, wedi ei dorri
pecyn bach o goriander
6 darn o lemon grass wedi eu torri
sest leim
10 pupren du
hanner llwy de o hadau coriander
chwarter llwy de o hadau cumin
6 llwy ford o olew<?xml:namespace prefix = o ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />
Rhostiwch yr hadau coriander a cumin mewn padell ffrio sych a wedyn rhaid eu malu yn fân ynghŷd â’r pupren du.
Cyfunwch bopeth, heblaw am yr olew, mewn cymysgydd drydan, ac ar ôl ychydig funudau, ychwanegwch yr olew i wneud past eithaf sych.
Mi wnaiff y past yma bara yn yn y rhewgell am rhyw dair wythnos.
Cyri Gwyrdd Cyw Iâr i 6 o bobl
3 llwy bord o Bast cyri gwyrdd
2 tin 400 ml o laeth cneuen goco, neu 1 tin a 400 ml o stoc
2 lwy bord o nam pla – saws pysgodyn
2 lwy de o sigwr, (sigwr palmwydden os yn bosib)
6 deilen leim kaffir, neu sest leim
sudd 1 leim
6 brest cyw iâr wedi ei dorri
200g o lysiau gwyrdd
llond dwrnaid o pea aubergines
llond dwrnaid o basil thai melys
Ffriwch y past cyri mewn frympan sych am bum munud i ryddhau’r gwynt aromatic.
Ychwanegwch y llaeth cneuen goco, y nam pla, y sigwr, y dail a’r sudd leim.
Aroswch ychydig i’r llaeth gymryd blas y cynhwysion eraill.
Ychwanegwch y cyw iâr, y llysiau gwyrdd a’r pea aubergines, a’i goginio ar wres isel nes bod y cyw iâr wedi ei goginio.
Ychwanegwch y basil thai melys.
Gweiniwch gyda reis thai a choriander mân wedi ei dywallt drosto.
Darllediadau
- Sul 16 Medi 201213:16BBC Radio Cymru
- Mer 19 Medi 201213:15BBC Radio Cymru
