Main content

Talwrn Nadolig 2025

1 Pennill ysgafn bachog (rhwng 4 ac 8 llinell): Gwahoddiad i’r Eisteddfod Gyntaf Un

Sir Aberteifi

Hawddamor, dewch atom, chwi feirdd a phrydyddion
I dref Aberteifi am dro,
I ddatgan eich cerddi a hynny cyn meddwi
I bawb a fyn wrando’n y fro.
Dewch yma i fwydro ac ymladd a bloeddio
Ac yfed eich gwala’n ddi-feth,
Gan wybod o’r diwedd ymhen wyth can mlynedd
Bydd beirdd yma’n gwneud yr un peth!

Emyr Davies 8

Y Garreg Las

Dewch i dre’r Cardis i weld cadair hardd

Yn cael ei throsglwyddo, gobeithio, i fardd.

Er derw oedd perta’, un cardfwrdd s’da ni,

‘Se neb ‘leni’n deilwng - Am wast fydde hi!

Elen Davies 8

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘camel’ neu ‘camelod’

Sir Aberteifi

Mae olion traed camelod

Yn y baw, a’r beudy’n bod.

Philippa Gibson 9

Y Garreg Las

Ni ŵyr y camel un hymp

nad yw yn gamel deuhymp.

Mererid Hopwood 9

Limrig ‘Un noson wrth ganu carolau’ neu ‘Wrth ganu carolau un noson’

Sir Aberteifi

Pum baswr ‘di meddwi cyn dechrau

A phedwar hen denor croendenau;

Sopranos (tair fflat)

Dwy alto wit-wat,

Un noson wrth ganu carolau.

Iwan Thomas 8.5

Y Garreg Las

Un noson wrth ganu carolau

Daeth menyw yn chwifio ei breichiau

I’r ffenest lan top

A gweiddi ‘jyst stop’

Fi wrthi’n rhoi’r plant yn eu gwelyau!

Megan Elenid 8

Cywydd ysgafn (rhwng 12 a 18 llinell): Y Neges Nadolig Flynyddol

Sir Aberteifi Neges Nadolig Flynyddol Satan

Helo annwyl ffyddloniaid

O borth y fflamau di-baid!

Ni bu un flwyddyn fel hon -

Cynifer oedd y cnafon!

Diolch fy ngweision diwyd

Am borthi trybini’r byd.

I chwi oll, bob tref a chwm,

Dymunaf bandemoniwm;

Ym mudiad ‘Reform’ ydwyf

A Farâge (ei hoffi rwyf),

Neu Donald, Donald yw’r dyn

Yn ufudd heb ailofyn.

Noddaf y biliwnyddion

Ar eu hynt drwy’r ddaear hon

Ond o hyd y mae ‘na dân

I’w siwtio yn nhŷ Satan.

Yn eiddgar y bo’r bleiddgwn

I’ch cyfarch chi… see u soon!

Emyr Davies 9.5

Y Garreg Las

Nadolig? Mi ges ddigon

leni o'r Sherry, a Siôn,

y byd yn diasbedain

y dôn Mistletoe and Wine,

ac ofnaf na fynnaf fi

encore i Mrs Carey.

Mae'r trawma o roi'r trimins

yn ddarnau mewn bagiau bins

a'u clymu'n dynn ers cyn co,

feri sad, yn f'arswydo,

a'r gair 'rheg' ac 'anrhegion'

yn bâr reit glos yn y bon.

Nadolig? Mi ges ddigon...

Ond â'th sach, mi deithi, Siôn,

atom bob blwyddyn eto,

at yr un blerwch bob tro;

yn ddyn byw, fe ddoi i'n byd

yn ddiddiolch o ddiwyd.

Tudur Dylan 9

Triban beddargraff Cardi

Sir Aberteifi

Islaw mae Ebeneser

A dalodd am dri chwarter

O driban hynod i’w goffáu…

Iwan Thomas 9.5

Y Garreg Las

Rôl oes o ffugio tlodi,

cynilo rhag trybini,

mae gan ei amdo boced ddofn

rhag ofn bydd atgyfodi.

Megan Elenid yn darllen gwaith Terwyn Tomos 9

Parodi ysgafn ar unrhyw garol Nadolig adnabyddus

Sir Aberteifi

Clywch lu athrawon yn seinio’n un,
Sioe Nadolig... pasia’r gwin!
Heddwch! Beth yw hwnnw nawr?
Er mwyn dyn, jyst ‘steddwch lawr!
Dewch, bob angel, trïwch fod
yn angylaidd, diawch erio’d
stopiwch bigo trwyn, a’r fflem…
ble ddaeth hwnna? Ych, dim clem!
Clywch lu’r plant yn smwt i gyd
henffych eni, bygs y byd!

Ist! Ma’ Mair ‘di dala’r ffliw,
Joseff sydd yn newid lliw.
Dolur rhydd a ddaeth ei hun
gwnaeth ei farc da’r doethion blin.
Gwele glitter yn y sic,
dwyfol galpol wneith y tric?
Stopiwch gicio! F’enaid, gwêl…
baban Iesu yw y bêl!
Clywch lu’r cast, yn cwmpo’n un,
henffych eni, cawdel blin.

Henffych, Lywodraethwyr gwiw;
henffych Bennaeth - pwysig yw.
Sioe Nadolig... daeth y dydd!
Ar ôl heno, fe fyddai’n rhydd.
Asyn porcyn sy’n rhoi bref,
gwisga bants er mwyn y nef !
NA, SDIM AMSER I GAEL PŴ!
Pam bo’r ŵyn yn brefi, “mw?”
Clywch lu athrawon yn seinio’n un...
Sioe Nadolig... pasia’r gwin!

Enfys Hatcher 10

Y Garreg Las

Draw mewn dinas, Andrew Windsor

mewn apartment isel, gwael,

fu’n ymarfer drwy wneud press-up:

yr oedd llety gwell i'w gael.

Lisi Windsor oedd y fam,

Andrew wastad yn cael cam.

Rhodio'r ddaear fawr a fynnai,

bron fel Duw ac Arglwydd nef;

ond yn Pizza ’Xpress yn Woking

Margerrita gafodd ef;

daeth i lawr o fod yn Dduw

heddiw’n frad i ddynol-ryw.

Nid yn Royal Lodge yn Windsor

y ceir eto’i weled ef,

ond yn eistedd mewn rhyw dafarn

efo boi o'r enw Dave;

cyd-orffennwn hyn o gân,

y mae pawb di blino'n lân.

Tudur Dylan 10

Ateb llinell ar y pryd – Fe wêl y CCTV

Sir Aberteifi

Nathan Gill a fu’n sili

Fe wêl y CCTV

Emyr Davies

Y Garreg Las

Fe wêl y CCTV

Y partridge in a pear tree

Tudur Dylan 0.5

Cerdd (rhwng 12 a 18 llinell): Angel neu Angylion

Sir Aberteifi

Angel

Pwy ‘leni sydd am garfio’n twrci ni?
Pwy ‘leni fytith gaws nes ‘fod e’n dost?
Pwy arall sy’n gweld crafu swêds yn sbri,
a’n tynnu coes, ein hala’n wirion bost?
A phwy ga’i brynu sanau iddo’n rhodd?
A phwy gaiff hawlio’r soffa iddo’n nyth?
Pwy ‘leni fydd yn slafo, wrth ei fodd
wrth ddechrau jig-so, sortio’r darnau syth?
Ni allaf ond arswydo’r gwacter hyn
a newid arfer, trwco’r drefn sy’n hen,
gan geisio cadw’i seren e ynghyn,
parhau i esgus dathlu, gwisgo gwên.
Pwy ‘leni sydd am fentro ‘mestyn fry
i osod angel disglair yn ein tŷ?

Enfys Hatcher 9.5

Y Garreg Las

Angel

“Fi yw’r brenin! Fi yw Herod!’

Llonyddodd, tawodd y dorf,

trodd pob pen i wylio martsio’r milwyr,

a gwrando’n syfrdan ar y gorchymyn

a roddodd fod i ddial, dicter

a galar rhieni.

Ond wedyn,

wedi i’r bugeiliaid orffen rhyfeddu

a chilio i’w bryniau;

wedi i’r doethion ddychwelyd ar hyd ffordd arall;

a’r baban bellach yn gorwedd yn ddiymadferth yn ei breseb;

rhedodd Herod, â’i goron yn ei law,

yn wên i gyd,

i dderbyn cwtsh a chanmoliaeth ei fam.

Yna, trodd tua thre,

law yn llaw â’i chwaer –

Gabriel.

Mererid Hopwood yn darllen gwaith Terwyn Tomos 9.5

Englyn cywaith ar y pryd – Pwdin Dolig

Sir Aberteifi

Un llwyaid o groeso llawen – a swllt

i’r resait cyn gorffen

a gair yn gymysg a gwên

sy’n felyn yn y fowlen

Idris Reynolds 9.5

Y Garreg Las

I mi, mae un atgof mân yn eisiau

drwy’r cynhwysion cyfan

Am nas caf, fe ganaf gân

I bleserau’r blas arian.

Elen Davies 9