Main content

Telerau ac Amodau Diwrnod Gorau Erioed Radio Cymru 2

Trefnydd y gystadleuaeth yw’r BBC.

Pwy sy’n gymwys

1. Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i holl drigolion y DU, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, sy’n 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac eithrio gweithwyr y BBC neu gwmni Grŵp y BBC, ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth. Gellir gofyn am brawf o oedran a chymhwysedd.

Sut i ymgeisio

2. Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg yn wythnosol am bedair wythnos, a bydd pob cystadleuaeth yn agor am 08:00am ar ddydd Llun ac yn cau am 08:00am ar ddydd Iau rhwng 23 Chwefror 2026 a 19 Mawrth 2026 (yn amodol ar newid golygyddol).

3. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei hybu ar draws rhaglenni BBC Radio Cymru 2 a BBC Radio Cymru drwy gydol y cyfnod pan fydd y gystadleuaeth yn rhedeg.

4. Ceir mynediad drwy ffurflen ar-lein sydd ar gael yn bbc.co.uk/diwrnodgorauerioed. Ni fydd ceisiadau drwy unrhyw ddull arall yn cael eu derbyn.

5. Rhaid i ymgeiswyr gynnwys y gair coll o glip yr wythnos honno fel y’i chwaraeir ar yr awyr. Gwiriwch sillafiad eich cais cyn ei gyflwyno. Fodd bynnag, os cred BBC yn rhesymol mai’r bwriad oedd nodi’r gair cywir, bydd y BBC yn derbyn y cais hyd yn oed os oes gwall sillafu ynddo.

6. Dim ond unwaith y gallwch gystadlu; ni fydd unrhyw geisiadau ychwanegol yn cael eu cyfrif a dim ond yr ateb a roddir yn eich cais cyntaf fydd yn cael ei dderbyn.

7. Ar ôl cau’r gystadleuaeth, caiff yr enillydd ei ddewis ar hap o bob cais cymwys a’i hysbysu ar fore cau cystadleuaeth yr wythnos honno. Gwahoddir yr enillydd i ymddangos ar raglen Radio Cymru 2 ar y dydd Iau i gael cyfle i ennill gwobr ychwanegol drwy ateb cwestiwn o fewn 20 eiliad gyda chymorth gwestai enwog.

Y Wobr

8. Mae pedair gwobr ar gael, un ar gyfer pob wythnos y bydd y gystadleuaeth yn rhedeg. Bydd un enillydd ar gyfer pob wythnos.

8.1 Wythnos 1: Y Diwrnod Gorau Erioed (Chwaraeon)
Pâr o docynnau i’r gêm pêl-droed Cymru yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn y gemau ail-gyfle Cwpan y Byd Ewropeaidd ar 26 Mawrth 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ynghyd â llety a threuliau teithio i ddau berson yng Nghaerdydd.
Bydd y wobr ychwanegol ar gyfer y cwestiwn ar yr awyr fel y’i disgrifir ar yr awyr.

8.2 Wythnos 2: Y Diwrnod Gorau Erioed (Cerddoriaeth)
Pâr o docynnau i weld Katy Perry yng Nghastell Caerdydd ar 30 Mehefin 2026, a phâr o docynnau i weld Lewis Capaldi ym Mlaigweir Fields, Caerdydd, y noson ganlynol, 1 Gorffennaf 2026, ynghyd â dwy noson o lety a threuliau teithio.
Bydd y wobr ychwanegol ar gyfer y cwestiwn ar yr awyr fel y’i disgrifir ar yr awyr.

8.3 Wythnos 3: Y Diwrnod Gorau Erioed (Adloniant)
Pedwar tocyn i benwythnos Traitors gan yr Urdd ym Mhentre Ifan, gan gynnwys llety, bwyd, hyfforddwr, a dau her (un dŵr ac un tir) a gynhelir gan Adventure Beyond, sef y tîm a greodd rai o’r heriau a welwyd ar The Traitors.
Bydd y wobr ychwanegol ar gyfer y cwestiwn ar yr awyr fel y’i disgrifir ar yr awyr.

8.4 Wythnos 4: Y Diwrnod Gorau Erioed (Dawns neu Ballroom)
Pâr o docynnau i Rownd Derfynol Strictly Come Dancing 2026 yn Stiwdios Elstree, ynghyd â theithio a llety.
Bydd y wobr ychwanegol ar gyfer y cwestiwn ar yr awyr fel y’i disgrifir ar yr awyr.

9. Mae’r enillydd yn cydnabod y gall bod gan y wobr delerau ac amodau ychwanegol. Mae’r enillydd yn cytuno i lynu wrth y telerau ac amodau hynny sy’n gysylltiedig â’r wobr. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am delerau trydydd parti na gwefannau trydydd parti sy’n ymwneud â’r wobr(au).

10. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw’r BBC yn gyfrifol am unrhyw ffi, treuliau na chostau eraill. Nid oes dewis arall o ran arian parod a ni ellir gwerthu nac trosglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Cyfrifoldeb ariannol yr enillwyr yw cyrraedd y digwyddiad.

11. Mae’r gwobrau fel y’u disgrifir. Nid yw’r BBC yn gyfrifol os bydd enillwyr yn methu â dilyn cyfarwyddiadau.

12. Nid yw’r gwobrau’n gyfnewidiadwy, yn drosglwyddadwy nac yn cael eu had-dalu am arian parod nac am wobrau eraill.

13. Ni all yr enillydd gopïo na dosbarthu’r wobr na chopïau ohoni. Ni all yr enillydd ddefnyddio nac atgynhyrchu unrhyw enwau rhaglenni, brandio na logos sydd ar y wobr neu sy’n gysylltiedig â’r wobr mewn unrhyw ffordd. Ni chaiff yr enillydd wneud unrhyw beth gyda’r wobr a allai ddwyn anfri ar y BBC.

Cyffredinol

14. Bydd enw a lleoliad bras yr enillydd yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.

15. Mae penderfyniad y BBC ynghylch ymgeiswyr ac enillwyr yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebiaeth yn ymwneud â’r gystadleuaeth yn cael ei hystyried.

16. Mae ymgeiswyr yn cytuno, os gofynir, i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd rhesymol ar ôl y gystadleuaeth.

17. Cynhelir y gystadleuaeth hon yn unol â chod ymddygiad y BBC ar gyfer cystadlaethau, sydd ar gael ar https://www.bbc.com/editorialguidelines/guidance/code-of-conduct. Mae Telerau Defnyddio’r BBC yn gymwys i’r gystadleuaeth hon.

18. Ni all y BBC, eu his-gontractwyr, is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant technegol neu wall nac unrhyw broblem arall gyda gweinydd, rhwydwaith, system neu unrhyw beth arall a allai arwain at gofrestriad yn methu â chael ei gofnodi neu ei gofnodi’n anghywir.

19. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y BBC yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed hynny wedi’i ragweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall), gan gynnwys colled ariannol, colled i enw da neu siom.

20. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried eu bod wedi derbyn y rheolau hyn ac yn cytuno i fod yn rhwym wrthynt wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.

21. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i:
(i) ddiwygio’r telerau ac amodau hyn gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, yr amseroedd agor a chau;
(ii) ddiarddel unrhyw ymgeisydd sy’n torri’r rheolau, sydd wedi gweithredu’n dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sydd wedi dod ag enw da’r BBC i anfri;
(iii) lle bo’n berthnasol, ddiarddel ymgeisydd neu enillydd, tynnu neu ddisodli unrhyw wobr, os bydd unrhyw ymgeisydd, enillydd neu’u gwestai ar unrhyw adeg yn ymddwyn mewn modd amhriodol neu beryglus (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fod o dan ddylanwad alcohol, cyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau cemegol, neu greu aflonyddwch) cyn neu wrth fod ar yr awyr, yn ymweld ag adeiladau’r BBC neu lle mae’r wobr yn cynnwys presenoldeb mewn digwyddiad, eu heithrio o’r digwyddiad hwnnw;
(iv) osod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion mynediad ychwanegol os yw’r wobr yn mynnu cyfyngiadau o’r fath (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i docynnau ar gyfer digwyddiadau gydag isafswm oedran neu ofynion mynediad eraill); a
(v) chanslo neu amrywio’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, os oes angen yn ôl ei barn, neu os bydd amgylchiadau’n codi y tu hwnt i’w rheolaeth.

22. Caiff y gystadleuaeth ei rhedeg gan y BBC yn unol a Chyfraith Lloegr a Chymru.

Hysbysiad Preifatrwydd Cystadleuaeth Radio Cymru 2

Mae eich ymddiriedaeth yn bwysig iawn i ni. Mae hynny’n golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn fel eich bod yn ymwybodol o sut a pham rydyn ni'n defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod ac ar ôl eich perthynas â ni, yn unol â'r gyfraith diogelu data.

Pam rydyn ni’n gwneud hyn a sut allwch chi gymryd rhan?
Drwy’r flwyddyn byddwn yn rhedeg cystadlaethau yn ystod ein rhaglenni dyddiol ar Radio Cymru 2, lle bydd modd ennill tocynnau, nwyddau neu dalebau.

I gael cyfle i ennill, gwrandewch am ‘arwydd i alw’ gan y cyflwynydd yn ystod rhaglenni
Radio Cymru 2 o ddydd Llun i ddydd Iau. Pan fydd yr ‘arwydd i alw’ yn cael ei chwarae fel darn o sain/cerddoriaeth, bydd gwrandawyr yn cael eu gwahodd i ffonio a chofrestru i chwarae.

Bydd un cystadleuydd yn cael ei ddewis drwy ddefnyddio system dewis rhifau ar hap. Yna byddwn yn ffonio’r cystadleuydd yn ôl er mwyn iddynt ateb cwestiwn gwybodaeth gyffredinol yn fyw ar yr awyr, i ennill mwy o wobrau.

Os byddwn yn darlledu eich cyfraniad ar yr awyr, gall hyn gynnwys bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gallai eich cyfraniad gael ei ddefnyddio eto mewn darllediad yn y dyfodol.

Efallai y byddwn yn defnyddio eich cyfraniad at ddibenion hyrwyddo ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y BBC.

Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu?
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:

• Enw
• Ardal leol
• Rhif ffôn cyswllt

Os ydych yn ddigon ffodus i ennill, byddwn hefyd yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost er mwyn i ni allu e-bostio eich gwobr atoch.

Pwy yw’r Rheolwr Data?
Y BBC yw “rheolwr data” eich data personol. Mae hyn yn golygu bod y BBC yn penderfynu ar gyfer beth y defnyddir eich data personol, a'r ffyrdd y caiff ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd eich data personol yn cael ei gasglu a'i brosesu at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn unig. Fel y rheolwr data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio a dangos cydymffurfiaeth â'r gyfraith diogelu data.

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol
Y sail gyfreithlon y mae'r BBC yn prosesu'ch data personol arni yw perfformio ei rôl gyhoeddus. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd ac i wasanaethu ei holl gynulleidfaoedd gyda chynnwys sy'n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.

Mae gennym hefyd “rwymedigaeth gyfreithiol” i gadw data personol enillwyr er mwyn i ni allu profi bod y gystadleuaeth yn deg.

Rhannu eich data personol
Mae’r BBC yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y BBC y mae'r partneriaid hyn yn defnyddio'ch data personol ac nid yn annibynnol ar y BBC.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti lle mae’n ofynnol neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Cadw eich data personol
Rydym yn cadw cofnodion o’r enillwyr am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.

Os darlledir eich cyfraniad, bydd eich data personol yn cael ei gadw a’i archifo am byth gan y BBC.

Bydd data personol pob cystadleuydd arall yn cael ei ddileu ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben y diwrnod hwnnw.

Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r AEE.

Eich hawliau a mwy o wybodaeth
Mae gennych hawliau o dan y gyfraith diogelu data:
• Gallwch ofyn am gopi o'r data personol y mae'r BBC yn ei storio amdanoch chi.
• Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch.
• Mae gennych hawl i ofyn i’r data personol a gasglwn amdanoch gael ei ddileu, serch hynny, mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a all roi’r hawl i’r BBC wrthod eich cais.
• Mewn amgylchiadau penodol, mae gennych hawl i gyfyngu prosesu eich data personol neu i wrthwynebu prosesu eich data personol.
• Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu sefydliad arall, mewn amgylchiadau penodol.

Gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych am gael mwy o fanylion am eich hawliau ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn Eich Gwybodaeth a’ch Preifatrwydd - Defnyddio'r BBC.

Os oes gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r BBC wedi trin eich data personol, gallwch godi eich pryderon gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/.

Diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn adolygu'r hysbysiad preifatrwydd os bydd newidiadau sylweddol i'r ffordd rydyn ni’n defnyddio'ch data personol.