Gwobr Tir na n-Og yn gweld dwbwl eto
- Cyhoeddwyd

Mae Manon Steffan Ros a Rhiannon Wyn wedi ennill y wobr yn 2010
Crëwyd hanes eleni wrth i ddwy awdures ennill gwobrau Cymraeg Tir na n-Og am yr ail dro ac ar yr un pryd â'i gilydd.
Daeth Manon Steffan Ros a Rhiannon Wyn i'r brig yn 2010 ac mae'r ddwy wedi cipio'r un gwobrau eto eleni.
Prif Weinidog Carwyn Jones gyflwynodd y gwobrau iddyn nhw ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Eryri ddydd Iau.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru'n cyflwyno gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Sefydlwyd y gwobrau yn 1976, a thros y blynyddoedd gwobrwywyd rhai o brif awduron Cymru ym maes llyfrau plant.
Cynradd
Enillydd gwobr y categori cynradd yw Manon Steffan Ros a hynny am Prism.
Yn y stori hon mae straen teuluol yn arwain at antur fawr i ddau frawd - Twm, yr hynaf, a Math, sydd â phroblemau meddyliol a chymdeithasol.
Mae Twm yn penderfynu rhoi seibiant i'w mam trwy fynd â'i frawd ar wyliau - gwyliau sy'n newid bywydau'r brodyr am byth.
Magwyd Manon yn Rhiwlas, Dyffryn Ogwen, ac mae hi bellach yn byw ym Mhennal, Bro Dysynni, gyda'i gŵr a dau o feibion.
Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri ac Abertawe, ac enillodd wobr Barn y Bobl yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2010 am Fel Aderyn (Y Lolfa, 2009), ei nofel gyntaf i oedolion.
"Rydw i wrth fy modd, ac yn teimlo bod ennill y wobr bwysig hon am yr ail dro yn anrhydedd fawr," meddai.
"Mae'n hwb aruthrol i unrhyw awdur pan fo'i waith yn cipio gwobr genedlaethol fel Tir na n-Og."
Uwchradd

Derbyniodd y ddwy y tlws gan y Prif Weinidog Carwyn Jones
Ennill gwobr y categori uwchradd oedd camp Rhiannon Wyn a hynny gyda'i nofel Yr Alarch Du.
Yn y stori hon mae'r ffair wedi dod i Gaernarfon ac wedi cael effaith andwyol ar dri o drigolion y dre - Mathew, John a Lara.
Ceir eu hanes dros gyfnod o bedwar diwrnod ac mae'r diweddglo'n un trasig.
Mae Rhiannon yn hanu o'r Groeslon, ger Caernarfon.
Roedd ei theulu'n cadw siop lyfrau, a chafodd ei hannog i ysgrifennu er pan oedd yn blentyn.
Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth, bu'n teithio o gwmpas y byd a bellach mae hi'n gweithio fel storiwraig a sgriptwraig i'r gyfres Rownd a Rownd.
"A minnau wedi ennill gwobr Tir na n-Og yn 2010 gyda'r gyfrol Codi Bwganod, roedd yn fraint ac yn bleser ennill y wobr nodedig hon am yr eildro," meddai.
"Roedd yn arbennig o braf fod Manon a minnau wedi ennill gyda'n gilydd unwaith eto."
'Safon arbennig'
Dywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: "Mae'n fraint cael llongyfarch Manon a Rhiannon ar ennill gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2012, a hynny am yr eildro.
"Roedd safon arbennig i'r llyfrau ar y rhestr fer eleni, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o lyfrau a gyhoeddir. Pleser o'r mwyaf yw llongyfarch y ddwy awdures a gwasg y Lolfa yn wresog ar eu llwyddiant."
Noddir gwobrau Tir na n-Og gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion, ynghyd â CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru).