Talu am bigiadau colli pwysau yn breifat yn sgil rhestrau aros hir

Hannah LongFfynhonnell y llun, Hannah Long
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Hannah Long golli pedair stôn ar ôl talu am bigiadau colli pwysau yn breifat

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai pobl sy'n gobeithio cael pigiadau colli pwysau ar y GIG yn dweud eu bod yn gorfod prynu rhai yn breifat gan fod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau rheoli pwysau wedi cyrraedd 10 mlynedd mewn rhannau o Gymru.

Mae amseroedd aros ar gyfer y gwasanaethau yma wedi dyblu yn nau o saith bwrdd iechyd Cymru, ac mewn un bwrdd iechyd mae'r rhestr wedi cynyddu pedair gwaith.

Mae gan Hannah Long, 34, syndrom ofari polycystig (PCOS), sydd wedi cael effaith ar ei phwysau ers ei harddegau cynnar.

Penderfynodd hi dalu'n breifat am Mounjaro ym mis Hydref 2025 a cholli pedair stôn mewn chwe mis, ar ôl cael gwybod y byddai angen iddi aros o leiaf dwy flynedd yn sgil rhestrau aros ei bwrdd iechyd, Cwm Taf Morgannwg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried opsiynau eraill ar gyfer rhagnodi meddyginiaeth colli pwysau.

60% o oedolion dros bwysau neu'n ordew

Mae presgripsiynau Mounjaro wedi cael eu cynnig gan feddygfeydd teulu yn Lloegr ers mis Mehefin 2025.

Yng Nghymru dim ond trwy wasanaethau rheoli pwysau arbenigol mae modd cael y pigiadau, neu mae ar gael i rai sy'n aros am lawdriniaethau brys hefyd.

Mae'r pigiadau yn lleihau'r awydd am fwyd, gan wneud i bobl deimlo'n llawnach. Mae Mounjaro hefyd yn cael effaith ar fetaboledd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y gred yw bod 186,000 o bobl o bosibl yn cyrraedd y meini prawf ar gyfer pigiadau colli pwysau, tra bod dros 60% o oedolion dros bwysau neu'n ordew.

HannahFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hannah ei bod wedi rhoi cynnig ar sawl peth dros y blynyddoedd i reoli ei phwysau

Ar ôl cael diagnosis yn 25 oed, roedd Hannah o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, wedi cael cynnig nifer o wahanol feddyginiaethau progesteron ar gyfer ei PCOS - cyflwr oedd wedi achosi iddi fynd o faint dillad 16 i faint 20 mewn blwyddyn.

Dywedodd ei bod wedi rhoi cynnig ar sawl peth dros y blynyddoedd i reoli ei phwysau, ac ar ôl clywed am y pigiadau colli pwysau oedd ar gael trwy'r GIG, roedd hi'n awyddus i roi cynnig arnyn nhw.

Ar ôl cael gwybod y byddai angen aros dwy flynedd am gymorth trwy'r GIG, prynodd Hannah y feddyginiaeth trwy fferyllfa ar-lein, ond mae'n dweud bod y diffyg goruchwyliaeth yn ei phoeni.

"Mae llawer o bobl fi'n eu hadnabod sydd yn defnyddio Mounjaro ar restrau aros ar gyfer y GIG," meddai.

"Dydw i ddim eisiau bod ar gyffur sydd ddim yn cael ei fonitro gan feddyg.

"Dydw i ddim eisiau cynyddu'r hyn dwi'n ei gymryd heb oruchwyliaeth meddyg gan nad ydw i'n teimlo bod hynny'n ddiogel."

Collodd Hannah bwysau, gan fynd o 18 stôn 8 pwys (117.9kg) i 14 stôn 7 pwys (92kg).

"Yr unig beth mae'r fferyllfeydd ar-lein yma yn gofyn i chi yw faint ydych chi wedi'i golli yn y cyfnod yma," meddai, gan ychwanegu bod y rhan fwyaf o'r hyn yr oedd hi'n ei wybod am bigiadau yn dod o'i hymchwil personol.

'Anghydraddoldeb enfawr rhwng Cymru a Lloegr'

Dywedodd Hannah nad yw'n ymarferol iddi dalu am y driniaeth yn y tymor hir - mae hi wedi gwario £1,000 mewn chwe mis - a bod "anghydraddoldeb enfawr rhwng Cymru a Lloegr" o ran amseroedd aros a'r hyn y gall meddygon teulu ei wneud.

Yn y pendraw cafodd Hannah apwyntiad gyda'r gwasanaeth rheoli pwysau, naw mis wedi iddi gael ei chyfeirio gyntaf ym mis Mehefin 2025.

Ond dywedodd mai dim ond pan gafodd ddiagnosis o apnoea cwsg y digwyddodd hynny - cyflwr roedd meddygon yn amau oedd wedi'i achosi gan ei phwysau.

Er iddi gael apwyntiad, mae angen i Hannah fod wedi cwblhau o leiaf 12 wythnos o "ymyrraeth weithredol" gyda deiet ac ymarfer corff cyn y bydd modd ei hystyried ar gyfer meddyginiaeth rheoli pwysau ar y GIG.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn amlinellu mai dim ond trwy'r gwasanaeth rheoli pwysau arbenigol lefel tri y gellir cael mynediad at bigiadau ar gyfer colli pwysau.

I gael eu cyfeirio at y gwasanaeth yma, rhaid i unigolion fod â BMI o fwy na 40 (neu 37.5 i bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig), o leiaf un cyflwr sy'n gysylltiedig â phwysau - fel pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, apnoea cwsg neu arthritis difrifol - a bod wedi cwblhau'r rhaglen rheoli pwysau lefel dau.

Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth deiet, cymorth ymarfer corff, a chymorth seicolegol i oedolion â gordewdra neu anghenion iechyd cymhleth sy'n gysylltiedig â phwysau.

Pa mor hir yw'r rhestrau aros?

  • Roedd nifer y bobl oedd yn aros am gymorth colli pwysau ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dyblu o 2,179 ym mis Tachwedd 2024 i 4,458 ym mis Tachwedd 2025;

  • Fe wnaeth y niferoedd yng Nghwm Taf Morgannwg dyfu o 1,604 o gleifion ar y rhestr aros ym mis Mawrth 2024 i 3,146 ym mis Mawrth 2025;

  • Cynyddodd y nifer yn ardal Bae Abertawe bedair gwaith, o 324 ym mis Hydref 2024 i 1,425 ym mis Hydref 2025;

  • Dywedodd Caerdydd a'r Fro fod amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau rheoli lefel tri rhwng naw a 10 mlynedd, gyda chyfeiriadau i wasanaethau lefel dau wedi cynyddu 67% yn y ddwy flynedd ddiwethaf;

  • Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan fod mwy na 4,000 o gleifion ar y rhestr aros rheoli pwysau i oedolion, gyda chyfnodau aros arferol o hyd at 10 mlynedd;

  • Dywedodd Bwrdd Iechyd Powys fod amseroedd aros tua 12 wythnos, gyda chyfnodau aros "yn aros yn fras yn sefydlog";

  • Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod 205 o gleifion ar y rhestr aros gwasanaeth lefel tri, a 809 ar lefel dau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried trefniadau eraill yn y dyfodol, gan gynnwys gofal sylfaenol, a bydd penderfyniadau pellach ynghylch defnyddio meddyginiaethau colli pwysau yn cael eu gwneud wrth i'r llwybr clinigol newydd ddatblygu.

RachelFfynhonnell y llun, Rachel Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rachel Bevan ei bod yn isel iawn ei hysbryd i ddechrau

Dechreuodd Rachel Bevan, 40 o Ben-y-bont ar Ogwr, ddefnyddio Mounjaro ym mis Mehefin 2024 ar ôl blynyddoedd o wahanol ddeietau, ac mae'n dweud ei bod yn debygol o'i ddefnyddio yn y dyfodol.

Er bod ganddi BMI o dros 45, dywedodd Rachel na fyddai hi wedi bod yn gymwys i gael triniaeth ar y GIG, ac ar hyn o bryd mae'n prynu'r feddyginiaeth o fferyllfa ar-lein.

"Ro'n i'n wirioneddol anhapus, yn eitha' isel oherwydd fy mhwysau," meddai Rachel, oedd yn pwyso 16 stôn 8 pwys (106kg) ar ddechrau ei thaith colli pwysau.

Yn wreiddiol, roedd y fam i ddau wedi ystyried balŵn gastrig, ond dywedodd ei bod yn poeni y gallai fod gam yn rhy bell ac yn costio gormod.

Ar ôl ymchwilio i'w dewisiadau, dewisodd Mounjaro a cholli pum stôn mewn tua blwyddyn, cyn colli mwy o bwysau ar ôl llawdriniaeth tynnu croen.

RachelFfynhonnell y llun, Rachel Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Rachel Bevan ddefnyddio Mounjaro ym mis Mehefin 2024

"Bydden i jyst yn dymuno ei fod ar gael 10 mlynedd yn ôl!" meddai.

"Fi'n teimlo mod i wedi colli cymaint o amser a chymaint o fy mywyd yn rhy drwm ac yn drist, a nawr fi'n cael fy mywyd yn ôl.

"Fi newydd gyrraedd 40 oed a fi'n teimlo fel 'mod i'n dod yn ôl at Rach."

Dechreuodd Rachel ar y dos isaf o 2.5mg, gan symud yn raddol i 7.5mg am chwe mis cyn gostwng yn ôl i 2.5mg fel rhan o'r broses cynnal a chadw.

"Dydych chi ddim yn meddwl am fwyd drwy'r amser, a fi wedi bod yn teimlo cymaint yn hapusach arno hefyd," meddai Rachel, sy'n bwyta deiet llawn protein.

Fodd bynnag, dywedodd Rachel fod y gost fisol wedi codi o £80 i £130, sy'n gorfodi rhai pobl i roi'r gorau i'r driniaeth.

Dywedodd fod nifer o'i ffrindiau, sydd i gyd yn famau, hefyd ar Mounjaro, ond gyda biliau i'w talu, nid prynu'r pigiadau yw'r flaenoriaeth bob amser.

Fe wnaeth Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) gymeradwyo defnydd tirzepatide - sy'n cael ei werthu dan yr enw Mounjaro - ym mis Rhagfyr 2024.

Ers hynny, dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod wedi gweld cynnydd 98% mewn atgyfeiriadau ar gyfer pigiadau colli pwysau ac, oherwydd pryderon y gallai orlethu'r GIG, rhoddwyd 12 mlynedd i'r gwasanaeth gyflwyno'r driniaeth.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg na allai wneud sylw ar achosion unigol, ond bod achosion fel yma yn "amlygu'r cymhlethdod o amgylch gwasanaethau rheoli pwysau, yn enwedig o ystyried yr opsiynau sydd nawr ar gael yn breifat".

'Meddyginiaethau o ffynonellau heb eu rheoleiddio yn risg'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "galw sylweddol am feddyginiaethau rheoli pwysau a mynediad atyn nhw drwy'r GIG".

Dywedodd llefarydd fod trefniadau wedi'u gwneud i'r rhai sydd ag angen "clinigol brys" i gael mynediad at y feddyginiaeth wrth iddyn nhw weithio i ddatblygu model newydd gyda mynediad ehangach.

"Meddyginiaethau presgripsiwn yn unig yw triniaethau colli pwysau fel Mounjaro a Wegovy, a dim ond yn unol â phresgripsiwn gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig a hyfforddedig y dylid eu cael a'u defnyddio," ychwanegodd.

"Ni ddylai unrhyw un brynu meddyginiaethau presgripsiwn yn unig ac eithrio gan gyflenwyr ag enw da fel fferyllfeydd cofrestredig.

"Mae meddyginiaethau a geir o ffynonellau heb eu rheoleiddio yn peri risg fawr i ddiogelwch pobl."

Beth yw barn y pleidiau?

Dywedodd Llafur Cymru fod eu llywodraeth wedi "sicrhau y gall pobl sy'n aros am lawdriniaeth neu drawsblaniadau organau gael mynediad at feddyginiaeth colli pwysau, lle byddai colli pwysau yn gwella eu canlyniadau. Mae hefyd ar gael trwy wasanaethau rheoli pwysau arbenigol y GIG."

Yn ôl Plaid Cymru: "Mae'n amlwg bod dull Llafur o ymdrin ag iechyd cyhoeddus yng Nghymru wedi methu a bod yn rhaid cael pwyslais newydd ar ofal ataliol, gan symud cyllid yn raddol tuag at yr amcan yma a hyrwyddo ffyrdd o fyw yn iachach, gan gynnwys bwyd, chwaraeon ac ymarfer corff."

Dywedodd y Ceidwadwyr: "Mae modd gweld meddyginiaethau colli pwysau sy'n cael eu rhagnodi yn briodol fel rhan o agenda ataliol sydd nid yn unig yn helpu unigolion gyda'u lles personol ond allai, yn ei dro, arbed cyllideb y gwasanaeth iechyd yn sylweddol yn y tymor hirach."

Yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Os ydyn ni am i'r triniaethau yma weithio, mae angen buddsoddiad priodol yng nghapasiti'r GIG, cefnogaeth i reoli pwysau, a mynediad teg i'r rhai sydd ei angen."

Mae Reform a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.