BBC Cymru Wales to broadcast bilingual drama Bang on BBC One Wales

BBC Wales acquires crime thriller, set in Port Talbot which first aired on S4C.

Published: 7 March 2019
Full of drama and pace, Bang will have you on the edge of your seat. It’s another of the phenomenal Welsh dramas making an impact, and is already highly acclaimed.
— Nick Andrews

BBC One Wales viewers will be taken on a fast-paced journey through the streets of industrial south Wales later this year, after the broadcaster acquired the rights to the crime thriller Bang.

Set in the steel town of Port Talbot, Bang is a drama about blood, love and human relationships. It was written by Bafta-wining scriptwriter Roger Williams, and produced by Joio and Artists Studio. Bang has won best drama in the Bafta Cymru awards, and Celtic Media Festival.

The eight-part drama follows the story of an ambitious policewoman, Gina (Catrin Stewart), and her brother Sam (Jacob Ifan), whose life is transformed when he comes into possession of a gun.

Much of the dialogue is through the medium of Welsh, which will be subtitled in English.

BBC Cymru Wales Head of Commissioning, Nick Andrews, says: “Full of drama and pace, Bang will have you on the edge of your seat. It’s another of the phenomenal Welsh dramas making an impact, and is already highly acclaimed.

“As well as having a gripping storyline and fast-paced dialogue, Bang showcases the powerful industrial landscape the steelmaking communities of south Wales. After the BBC’s documentary on the annual Taibach pantomime Balls of Steel, then the furore around Banksy’s visit, Port Talbot is clearly at ease in the limelight.”

Bang will air on BBC One Wales in early summer.

Pictured are Jacob Ifan (Sam) and Catrin Stewart (Gina). Photograph copyright: Banijay.

GE

BBC Cymru Wales i ddarlledu’r ddrama ddwyieithog Bang

Mae BBC Cymru wedi prynu’r hawliau ar gyfer y ddrama drosedd gyffrous a darlledwyd yn gyntaf ar S4C.

Bydd gwylwyr BBC One Wales yn cael eu tywys ar wibdaith ar hyd strydoedd diwydiannol de Cymru yn nes ymlaen eleni, wedi i’r darlledwr brynu’r hawliau i’r gyfres drosedd gyffrous, Bang.

Gwaed, cariad a’r berthynas rhwng pobl a’i gilydd yw themâu Bang, sydd wedi’i lleoli yn nhref y dur, sef Port Talbot. Y sgriptiwr Roger Williams, sydd wedi ennill Bafta, yw awdur y ddrama sydd wedi ei chynhyrchu gan Joio ac Artists Studio. Mae Bang wedi ennill teitl y ddrama orau yng ngwobrau Bafta Cymru a’r Wyl Cyfryngau Celtaidd.

Mae’r ddrama wyth rhan yn dilyn hanes plismones uchelgeisiol, Gina (Catrin Stewart), a’i brawd Sam (Jacob Ifan). Mae bywyd Sam yn newid yn gyfan gwbl pan mae’n cael gafael ar wn.

Bydd llawer o’r ddeialog yn Gymraeg, gydag is-deitlau Saesneg.

Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales: “Mae Bang yn llawn drama a chyffro sy’n eich gadael yn awchu am y bennod nesaf. Dyma ddrama wych a dylanwadol arall o Gymru sydd eisoes wedi ennill cryn glod.

“Yn ogystal â stori ddiddorol a deialog gyflym, mae Bang yn darlunio tirwedd ddiwydiannol bwerus cymunedau dur de Cymru. Ar ôl Balls of Steel, rhaglen ddogfen y BBC ynghylch pantomeim blynyddol Tai-bach, ac yna’r cynnwrf ynghylch ymweliad Banksy, mae Port Talbot yn amlwg yn ddigon cartrefol â chyhoeddusrwydd.”

Bydd Bang ar BBC One Wales yn gynnar yn yr haf.

Yn y llun mae Jacob Ifan (Sam) a Catrin Stewart (Gina). Hawlfraint y llun: Banijay.

GE