BBC Radio Cymru 2 takes to the airwaves

In an historic moment for Welsh broadcasting, BBC Radio Cymru 2 - the new Welsh language radio service from the BBC - takes to the airwaves today.

Published: 29 January 2018
I’m delighted that our new Charter has enabled us to strengthen our services for Welsh language audiences, and to offer our radio listeners real choice in Welsh for the very first time.
— Tony Hall, Director-General of the BBC

For the first time in BBC Radio Cymru’s 40-year history, listeners will have a choice of Welsh language programmes in the mornings. BBC Radio Cymru’s Post Cyntaf will continue to offer news and analysis, while BBC Radio Cymru 2’s new daily breakfast programme, Sioe Frecwast, will provide families with an alternative programme - with entertainment, music and chat, in Welsh.

Tony Hall, Director-General of the BBC says: “I’m delighted that our new Charter has enabled us to strengthen our services for Welsh language audiences, and to offer our radio listeners real choice in Welsh for the very first time.”

Sioe Frecwast will be available every day on Radio Cymru 2, presented by:

  • Dafydd Meredydd and Caryl Parry Jones, Monday-Thursday, 6.30-8.30am
  • Huw Stephens, Friday, 6.30-8.30am
  • Lisa Angharad, Saturday, 7-9am
  • Lisa Gwilym, Sunday, 8-10am

Betsan Powys, Editor of BBC Radio Cymru says: "From today, listeners across Wales who want to tune in to a Welsh language radio service can choose - news, sport and analysis with the Post Cyntaf team on BBC Radio Cymru, or the Sioe Frecwast on BBC Radio Cymru 2.

"It’s 40 years since the BBC took a vote of confidence in Welsh language broadcasting and launched BBC Radio Cymru. Here we are again - another vote of confidence, taken in 2017, delivering real choice on air in 2018. It’s been no mean feat bringing BBC Radio Cymru 2 to air - 'diolch' to everyone who helped make it happen."

  • BBC Radio Cymru 2 is available on digital radio. Many digital sets will automatically update and will discover BBC Radio Cymru 2 without any assistance. But if not, listeners can select the Auto Tune or Auto Scan option to add BBC Radio Cymru 2 to their list of stations.
  • You can listen to the Sioe Frecwast breakfast programme live - and any edition during the previous 30 days - on the BBC iPlayer Radio app and bbc.co.uk/radiocymru2
  • BBC Radio Cymru 2 will be on TV: Freeview, YouView, BT TV, & Talk Talk TV – channel 721; Sky, channel 0154; Freesat, channel 718 (and 735 outside Wales)

SM2

BBC Radio Cymru 2 yn taro'r tonfeddi

Mae’n ddiwrnod hanesyddol ym maes darlledu Cymraeg. Heddiw bydd BBC Radio Cymru 2 - gwasanaeth radio Cymraeg newydd y BBC - yn mynd ar yr awyr (dydd Llun, Ionawr 29).

Am y tro cyntaf ers i BBC Radio Cymru gael ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl, bydd gwrandawyr yn cael dewis o raglenni Cymraeg yn y bore. Bydd y Post Cyntaf yn dal i gynnig newyddion ac i ddadansoddi, tra bydd y Sioe Frecwast, y rhaglen amser brecwast ddyddiol newydd ar BBC Radio Cymru 2, yn darparu rhaglen amgen i deuluoedd gydag adloniant, cerddoriaeth a sgyrsiau yn y Gymraeg.

Dywedodd Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC: "Rwy’n falch iawn bod y Siarter newydd wedi’n galluogi ni i gryfhau ein gwasanaethau ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg ac i gynnig dewis gwirioneddol i’n gwrandawyr radio am y tro cyntaf yn y Gymraeg."

Bydd Y Sioe Frecwast ar gael bob dydd ar Radio Cymru 2 ac yn cael ei chyflwyno gan:

  • Dafydd Meredydd a Caryl Parry Jones, Dydd Llun-Dydd Iau, 6.30-8.30am
  • • Huw Stephens, Dydd Gwener, 6.30-8.30am
  • • Lisa Angharad, Dydd Sadwrn, 7-9am
  • • Lisa Gwilym, Dydd Sul, 8-10am

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: "O heddiw ymlaen, gall gwrandawyr ledled Cymru sydd eisiau gwrando ar wasanaeth radio Cymraeg ddewis - newyddion, chwaraeon a digon o ddadansoddi gyda thîm y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru neu’r Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru 2.

"Mae 40 mlynedd ers i’r BBC roi ei ffydd mewn darlledu Cymraeg a lansio BBC Radio Cymru. A dyma ni unwaith eto - cam hyderus arall, yn cael ei gymryd yn 2017, gyda dewis go iawn ar yr awyr yn 2018. Dydy’r broses o gael BBC Radio Cymru 2 ar yr awyr heb fod yn hawdd - diolch i bawb a wnaeth helpu i sicrhau bod hynny’n digwydd."

  • Mae BBC Radio Cymru 2 ar gael ar radio digidol. Bydd llawer o setiau digidol yn diweddaru’n awtomatig ac yn darganfod BBC Radio Cymru 2 heb gymorth. Fel arall, gall gwrandawyr ddewis yr opsiwn Tiwnio neu Sganio’n Awtomatig i ychwanegu BBC Radio Cymru 2 at eu rhestr o orsafoedd radio.
  • Gallwch wrando ar y Sioe Frecwast yn fyw - ac ar unrhyw rifyn o'r 30 diwrnod diwethaf - ar ap BBC iPlayer Radio ac ar bbc.co.uk/radiocymru2
  • Bydd BBC Radio Cymru 2 ar y teledu: Freeview, YouView, BT TV, a Talk Talk TV – sianel 721; Sky, sianel 0154; Freesat, sianel 718 (a 735 y tu allan i Gymru)

SM2