The countdown begins - BBC Radio Cymru 2 takes to the airwaves in January 2018
BBC Radio Cymru 2 is set to broadcast in the New Year, with the first show scheduled for Monday 29 January.
Published: 27 November 2017

English Language Version
A brand-new breakfast show will take to the airwaves every morning of the week - including Saturday and Sunday - offering a choice for Welsh speakers across the country on DAB, website, BBC iPlayer Radio and TV.
Betsan Powys, Editor of BBC Radio Cymru, says: “BBC Radio Cymru 2 gives us an opportunity to celebrate the fact that our audiences like and listen to different things; we’ll offer a fun-filled, music-based breakfast show every morning of the week for those who want it. And for those who don’t, those who value and cherish the news-based programme on Radio Cymru, there will be no change.
“Radio Cymru 2’s station sound will be a mix of familiar and not-so-well-known voices. But they’ll all have one focus - bringing new and former listeners to the Radio Cymru 2 breakfast table.”
A further announcement about the presenter line-up is expected over the next few weeks.
Radio Cymru’s schedule will remain unchanged on FM and DAB.
In a speech at Pontio in Bangor, Monday night (November 27), the Director of BBC Wales, Rhodri Talfan Davies, said the development of Radio Cymru 2 was part of an unprecedented expansion of Welsh language services to meet the changing needs of audiences.
“This is an era of innovation and experimentation, fuelled by changing audiences and a technology revolution.
“In the space of three years, BBC Cymru Fyw has become an indispensable guide to Wales for more than 50,000 people each week, BBC iPlayer has transformed the availability of Welsh content across the UK, S4C’s Hansh is cutting through in social media like never before, and now BBC Radio Cymru is launching a second digital service to offer real choice to listeners.
“The speed of change is exciting and unprecedented. And we must go further too. Our goal should be to take the Welsh language into every corner of the new media landscape - yr iaith ar daith.”
SM2
Welsh Language Version
BBC Radio Cymru 2 – I DDARLLEDU BOB BORE’R WYTHNOS O 29 IONAWR 2018
Bydd BBC Radio Cymru 2 yn darlledu o flwyddyn nesaf ymlaen - gyda’r rhaglen gyntaf yn darlledu’n fyw ddydd Llun, 29ain Ionawr. Yn dilyn hynny, bydd sioe frecwast ar yr awyr saith bore’r wythnos ar Radio Cymru 2 a hynny ar DAB, y wefan, BBC iPlayer Radio a theledu.
Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Mae BBC Radio Cymru 2 yn rhoi cyfle i ni ddathlu’r ffaith nad yw pob gwrandawr yn gwirioni ’run fath. Y cynnig fydd sioe frecwast hwyliog, llawn cerddoriaeth, cwmni a chwerthin bob bore’r wythnos i’r rhai sydd eisiau hynny. Ac i’r rhai sydd ddim, ac sy’n mwynhau ac yn gwerthfawrogi’r rhaglenni newyddion ar Radio Cymru, fydd ’na ddim newid.
“Bydd ambell lais yn gyfarwydd iawn, ambell un yn llai cyfarwydd ac ambell lais yn trio rhywbeth newydd - a nod pawb fydd eich darbwyllo chi i droi bob bore at griw Radio Cymru 2 dros frecwast.”
Disgwylir cyhoeddiad pellach am gyflwynwyr yr orsaf dros yr wythnosau nesaf. Ni fydd newid i amserlen Radio Cymru ar FM a DAB.
Mewn araith yng Nghanolfan Pontio, Bangor nos Lun (Tachwedd 27ain), dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, fod datblygiad Radio Cymru 2 yn rhan o ehangu digynsail o wasanaethau Cymraeg i ymateb i anghenion y gynulleidfa sy’n newid yn barhaus.
“Dyma gyfnod o arloesi ac arbrofi, wedi ei danio gan gynulleidfaoedd sy’n newid yn ogystal â chwyldro technolegol.
“Dros gyfnod o dair blynedd, mae BBC Cymru Fyw wedi dod yn ganllaw hanfodol i Gymru i fwy na 50,000 o bobl bob wythnos; mae BBC iPlayer wedi trawsffurfio sut mae modd gweld cynnwys ar draws Cymru; mae cyfres S4C Hansh yn torri drwy’r cyfryngau cymdeithasol fel erioed o’r blaen a rwan mae BBC Radio Cymru yn lansio ail wasanaeth digidol i gynnig dewis clir i wrandawyr.
“Mae’r newidiadau yn digwydd ar gyflymdra anhygoel. Ac mae’n rhaid i ni fynd ymhellach. Y nod yw sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cyrraedd pob cornel o’r tirwedd cyfryngol newydd – yr iaith ar daith.”
SM2
