Limited number of additional tickets for Pobol y Cwm tours

With the Pobol y Cwm tour tickets - during National Eisteddfod Cardiff 2018 - snapped up in just over a week, BBC Wales has announced it will release a limited number of additional tickets.

Published: 17 July 2018
We’re pleased we’re able to open additional tours for Pobol y Cwm fans, giving them a chance to visit Cwmderi during the Eisteddfod week. The bilingual tours are free of charge and we expect the additional tickets to go quickly
— Llyr Morus, Series Producer

English Language version

In response to demand for additional tickets, new tours will be opened, giving people another opportunity to visit Cwmderi, the fictional village filmed at BBC Studio Wales’ centre in Cardiff Bay.

Series Producer Llyr Morus says: “We’ve had a great response and we’ve managed to squeeze in a few more tours into the timetable. We’re pleased we’re able to open additional tours for Pobol y Cwm fans, giving them a chance to visit Cwmderi during the Eisteddfod week. The bilingual tours are free of charge and we expect the additional tickets to go quickly.”

Shelley Rees (Stacey) and Rhydian Bowen Phillips (Dewi) - two former actors from the soap opera - will return to Cwmderi to lead the tours and there will be an opportunity for the public to ask questions as they take in the sights around the studio.

Shelley says: “It’s going to be a fantastic experience for people to see the studio and the street outside. The set’s amazing - and I’m really looking forward to having a chat with everyone.”

Rhydian says: “People are going to love walking into the houses, taking a peek inside the cupboards, relaxing on the sofas and taking plenty of selfies. And we’ll be opening the doors of the Deri, the shop and the cafe.”

The additional tickets will be released 8.30pm on Friday, July 20 at bbc.co.uk/pobolycwm

Notes to Editors

1. Pobol y Cwm is the BBC’s longest-running television soap opera.
2. The very first episode aired on Wednesday 16 October 1974 at 7.10pm on BBC One Wales.
3. The series was aired nightly for the first time in September 1988.
4. In 2001 the series was aired continually for 52 weeks a year, for the first time.
5. In September 1988 the series aired five times a week - the only soap opera in Britain to do so at the time.
6. The main street was filmed for the first time at the BBC’s Broadcasting House in Llandaff in 1996. The current set has been in Cardiff Bay since 2011.
7. Trefelin was the original name discussed for the series.
8. Pobol y Cwm’s opening line was: “Bore da, Maggie Mathias” by Harri Parri (Charles Williams).
9. Pobol y Cwm airs on S4C Monday - Friday with an omnibus edition every Sunday, with in-vision English subtitles.
10. The tours are bilingual.

SM2

Welsh Language version

NIFER CYFYNGEDIG O DOCYNNAU YCHWANEGOL I’W RHYDDHAU AR GYFER TEITHIAU POBOL Y CWM

Gyda thocynnau ar gyfer teithiau o set Pobol y Cwm, yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 wedi mynd i gyd mewn ychydig dros wythnos, mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau nifer cyfyngedig o docynnau ychwanegol.

Yn sgil y galw am docynnau ychwanegol, bydd rhagor o deithiau yn rhoi mwy o gyfle i bobl grwydro o amgylch Cwmderi, y pentref dychmygol sy’n cael ei ffilmio yng nghanolfan BBC Studios Cymru ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Cynhyrchydd y Gyfres, Llyr Morus: “Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel. Rydym wedi llwyddo i wasgu cwpl o deithiau ychwanegol i mewn i’r amserlen lawn ac ry’n ni’n falch i gynnig hyd yn oed mwy o docynnau i ffans Pobol y Cwm i gamu mewn i Gwmderi yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae’r teithiau yn rhad ac am ddim ac ry’n ni’n disgwyl y bydd y tocynnau ychwanegol yn mynd yn gyflym.”

Mae Shelley Rees (Stacey) a Rhydian Bowen Phillips (Dewi) - dau o gyn actorion yr opera sebon - yn dychwelyd i Gwmderi i arwain y teithiau a bydd cyfle gan y cyhoedd i holi cwestiynau wrth grwydro o amgylch y set.

Dywedodd Shelley: “Mae’n mynd i fod yn gyfle ffantastig i bobl weld y stiwdio a’r stryd tu allan. Mae’r set yn anhygoel - ac rwy’n edrych ymlaen i gloncan gyda phawb”.

Dywedodd Rhydian: “Bydd pobl wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas y tai a bydd cyfle hyd yn oed i fusnesa y tu mewn i’r cypyrddau, ymlacio ar y soffas a chymryd digon o luniau. Ac fe fydd drysau’r Deri, y siop a’r caffi ar agor”.
Bydd tocynnau ychwanegol yn cael eu rhyddhau am 8.30pm nos Wener Gorffennaf 20 ar wefan bbc.co.uk/pobolycwm

Nodiadau i Olygyddion:

1. Pobol y Cwm yw opera sebon deledu hyna’r BBC. Mi gafodd hi ei darlledu gyntaf yn Hydref 1974 ac mae’r stiwdio fel arfer ar gau i’r cyhoedd, wrth i’r gyfres boblogaidd gael ei chynhyrchu drwy gydol y flwyddyn.
2. Darlledwyd y bennod gyntaf erioed nos Fercher 16 Hydref 1974 am 7.10pm ar BBC One Wales.
3. Dechreuodd y gyfres gael ei darlledu’n nosweithiol ym mis Medi 1988.
4. Yn 2001 y cafodd y gyfres ei darlledu’n ddi-dor am 52 wythnos y flwyddyn am y tro cyntaf.
5. Ym Medi 1988 darlledwyd y gyfres bum gwaith yr wythnos - yr unig opera sebon ym Mhrydain i wneud hynny ar y pryd.
6. Ffilmiwyd ar y stryd fawr am y tro cyntaf yn stiwdio y BBC yn Llandaf yn 1996. Mae’r set bresennol wedi bod ym Mae Caerdydd ers 2011.
7. Trefelin oedd yr enw gwreiddiol a gafodd ei drafod ar gyfer y gyfres.
8. Llinell agoriadol Pobol y Cwm oedd: “Bore da, Maggie Mathias” gan Harri Parri (Charles Williams).
9. Darlledir Pobol y Cwm, Llun - Gwener ar S4C gyda rhifyn omnibws ddydd Sul, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin.
10. Bydd y teithiau yn ddwyieithog

SM2