BBC Wales announces successful Documentary Directors Initiative candidates
The successful candidates chosen for the first BBC Wales New Documentary Directors’ Initiative have been announced.

This scheme was always designed to give a platform to those who will tell compelling stories of Wales ... We’re hugely excited by the potential for the final films
The four directors selected for the scheme’s inaugural year will now be given the opportunity to produce their first single, long-form documentary. All four films will broadcast on BBC One Wales.
The directors will work with independent production companies to make their films that will each be a minimum of 30 minutes in duration. The selected winners are Toby Cameron, Bethan Evans, Claire Hill and Jacqueline Lee. As part of the initiative, the candidates will also have access to exclusive mentoring and masterclasses with leading figures from the industry.
BBC Wales Head of Commissioning Nick Andrews says: “The New Documentary Directors’ Initiative is an exciting project that offers an unique opportunity for would-be documentary makers to develop their skills. We had an amazing response and were thrilled to see so many very talented emerging directors apply. The final four were chosen from a very tough field of applicants.
“This scheme was always designed to give a platform to those who will tell compelling stories of Wales. We’ve been really impressed by the creative ideas that have been presented to us, and we’re hugely excited by the potential for the final films.”
The successful directors are:
- Toby Cameron is a self-shooting producer director whose recent projects have included observational documentaries and several music documentaries. He will be directing his first long-form single film with Folk Films.
- Bethan Evans has 15 years’ experience in the industry. Now a producer-director and development producer, during her career she has worked on an array of factual series and documentaries in the UK and abroad, living history series and, most recently, a BBC Wales observational documentary following life at a zoo. She will produce her film with Wildflame Productions.
- Claire Hill is a producer director and development producer who began her career in journalism. She has worked in a wide variety of TV genres including observational documentary series and factual entertainment. She co-directed the powerful BBC Wales documentary Richard and Jaco: Life With Autism. She will make her film with Wildflame Productions.
- Jacqueline Lee is a producer director with a passion for observational documentaries. She most recently worked as an assistant producer on a documentary marking the anniversary of the Abortion Act and was a shooting director on an upcoming funny factual observational documentary for BBC Wales about a wedding planner. Jacqueline will make her film with Yeti Television.
GE
BBC Cymru yn cyhoeddi ymgeiswyr llwyddiannus Menter Cyfarwyddwyr Newydd ar gyfer Rhaglenni Dogfen
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi ymgeiswyr llwyddiannus ei Fenter Cyfarwyddwyr Newydd ar gyfer Rhaglenni Dogfen.
Bydd y cyfarwyddwyr buddugol sydd wedi eu dewis ym mlwyddyn agoriadol y cynllun yn cael y cyfle i greu rhaglen ddogfen ffurf hir. Bydd y pedair ffilm yn cael eu darlledu ar BBC One Wales.
Bydd y cyfarwyddwyr yn gweithio gyda chwmnïau cynhyrchu annibynnol i greu eu ffilmiau fydd yn 30 munud o hyd. Toby Cameron, Bethan Evans, Claire Hill a Jacqueline Lee yw’r ymgeiswyr buddugol. Fel rhan o’r cynllun, byddant yn cael eu mentora ac yn mynychu sesiynau unigryw gyda ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant.
Dywedodd Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Nick Andrews: “Mae’r Menter Cyfarwyddwyr Newydd yn brosiect cyffrous sydd yn cynnig cyfle unigryw i gynhyrchwyr rhaglenni dogfen ddatblygu eu sgiliau. Cawsom ymateb anhygoel i’r fenter, ac roeddem wrth ein boddau i weld cymaint o gyfarwyddwyr talentog yn ymgeisio. Cafodd y pedwar buddugol eu dewis mewn cystadleuaeth frwd.
“Pwrpas y fenter hon yw rhoi llwyfan i’r rheiny sydd â’r gallu i adrodd straeon ysgogol am Gymru. Rydym wedi bod wrth ein boddau gyda’r syniadau creadigol sydd wedi eu cyflwyno i ni, ac ry’n ni’n edrych ymlaen at weld potensial y ffilmiau gorffenedig.”
Dyma’r cyfarwyddwyr llwyddiannus:
- Mae Toby Cameron yn gynhyrchydd gyfarwyddwr. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys rhaglenni dogfen arsylwi a nifer o raglenni ddogfen cerddorol. Bydd yn cyfarwyddo ei ffilm ffurf hir unigol gyntaf gyda Folk Films.
- Mae gan Bethan Evans 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant. Mae hi nawr yn gynhyrchydd-gyfarwyddwr a chynhyrchydd datblygu. Yn ystod ei gyrfa y mae wedi gweithio ar lu o gyfresi ffeithiol a rhaglenni dogfen yn y DU a thramor, cyfresi hanes byw, ac yn fwy diweddar, rhaglen ddogfen BBC Wales sydd yn dilyn bywyd mewn sw.
- Mae Claire Hill yn gynhyrchydd gyfarwyddwr a chynhyrchydd datblygu ond fe ddechreuodd ei gyrfa mewn newyddiaduraeth. Mae hi wedi gweithio ar ystod eang o genres teledu, gan gynnwys rhaglenni dogfen arsylwi ac adloniant ffeithiol. Roedd hi’n gyd-gyfarwyddwr ar raglen ddogfen bwerus BBC Cymru Richard and Jaco: Life With Autism. Bydd hi’n gweithio gyda Wildflame Productions i greu ei ffilm.
- Mae Jacqueline Lee yn gynhyrchydd gyfarwyddwr sydd yn angerddol am raglenni dogfen arsylwi. Yn fwyaf diweddar, fe weithiodd fel cynhyrchydd cynorthwyol ar raglen ddogfen oedd yn nodi pen-blwydd y Ddeddf Erthylu, a bu’n gyfarwyddwr ffilmio ar raglen ddogfen ddifyr i BBC Cymru am drefnydd priodasau sydd ar fin cael ei darlledu. Bydd Jacqueline yn gweithio gyda Yeti Television i greu ei ffilm.
GE
