BBC Cymru Wales launches scheme for new documentary film makers
BBC Cymru Wales is to launch a new directors’ initiative - the first of its kind for the broadcaster. BBC Cymru Wales New Documentary Directors’ Initiative will give talented up-and-coming directors the opportunity to make their first long-form documentary programme to be broadcast on BBC One Wales.

We’re looking for candidates who are hungry for the opportunity to make their own film; we’re looking for passion and new ideas.
Announced by Nick Andrews, BBC Wales’ Head of Commissioning at an industry event in Cardiff on Thursday (21 September), he outlined how four successful candidates will each get the chance to produce a half hour documentary for BBC One Wales. The new film makers will also be given access to a series of specialist mentoring sessions and masterclasses with leading figures within the documentary field in Wales and beyond.
Nick Andrews says: “This new and ambitious project is not only designed to create four fresh, new documentaries for BBC Wales. It is also aimed to be a launch-pad for rising stars and to ensure the next generation of film-makers are emerging to tell compelling stories of Wales.
“We’re looking for candidates who are hungry for the opportunity to make their own film; we’re looking for passion and new ideas.”
Eligible candidates for the scheme include film school graduates or those working in the industry who have experience of directing and editing for broadcast.
New directors interested in applying for a place on the initiative will be able to do so via the BBC Careers Hub from the first week of October.
NTW
BBC Cymru Wales yn lansio cynllun ar gyfer cyfarwyddwyr newydd
Mae BBC Cymru Wales wedi lansio menter i gyfarwyddwyr newydd - y cyntaf o’i fath i’r darlledwr. Bydd Menter Cyfarwyddwyr Rhaglenni Dogfen Newydd BBC Cymru yn rhoi cyfle i gyfarwyddwyr talentog i greu rhaglen ddogfen ffurf hir i’w ddarlledu ar BBC One Wales.
Cyhoeddwyd y cynllun gan Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru mewn digwyddiad i’r diwydiant teledu yng Nghaerdydd ddydd Iau 21 Medi. Wrth amlinellu’r cynllun, dywedodd y bydd pedwar ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i gyfarwyddo rhaglen ddogfen hanner awr o hyd ar gyfer BBC One Wales. Fe gaiff y gwneuthurwyr ffilm newydd hefyd fanteisio ar sesiynau mentora a dosbarthiadau meistr gydag arbenigwyr ym maes rhaglenni dogfen yng Nghymru a thu hwnt.
Dywed Nick Andrews: “Mae’r prosiect newydd ac uchelgeisiol hwn wedi ei gynllunio nid yn unig i greu pedair rhaglen ddogfen newydd a chyfoes ar gyfer BBC Cymru. Mae hefyd wedi ei anelu i danio gyrfa sêr y dyfodol a sicrhau fod y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm yn dod i’r amlwg ac yn adrodd straeon difyr am Gymru.
“’Da ni’n chwilio am ymgeiswyr sy’n awchu am y cyfle i wneud ffilm; ‘da ni’n edrych am angerdd ac am syniadau newydd,” ychwanegodd.
Gall ymgeiswyr cymwys ar gyfer y fenter gynnwys graddedigion o gyrsiau ffilm neu unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant a chanddynt brofiad o gyfarwyddo a golygu ar gyfer darlledu.
Gofynnir i gyfarwyddwyr newydd sydd â diddordeb mewn ymgeisio am le fel rhan o’r fenter wneud hynny drwy wefan Gyrfaoedd y BBC o wythnos gyntaf mis Hydref.
NTW
