BBC NOW's Principal Conductor Thomas Søndergård extends his contract

BBC National Orchestra & Chorus of Wales (BBC NOW) today announce that Principal Conductor Thomas Søndergård will continue his role for at least two more years.

Published: 15 February 2016
I really feel that I know this orchestra well. There are so many possibilities for the future, and I hope we keep surprising each other too!
— Thomas Søndergård

English Language Version

BBC National Orchestra & Chorus of Wales (BBC NOW) today announce that Principal Conductor Thomas Søndergård will continue his role for at least two more years. 

Søndergård was appointed Principal Conductor in 2011 and took up his position in September 2012. His contract extension will see him continue as Principal Conductor until at least 2018. Highlights with the orchestra to date have included his exploration of Mahler’s symphonies. BBC NOW has performed Nos 2, 4, 5 and 9 with Søndergård and will close the 2015-16 season with a performance of Symphony No. 1 on 16 June 2016 at Brangwyn Hall and 17 June 2016 at St David’s Hall. Søndergård’s Mahler cycle with BBC NOW will be completed over this next period of his contract.

Thomas Søndergård says: “I’m so pleased to be extending my contract with this wonderful and passionate orchestra. We’re on an exciting musical journey together, with some amazing performances so far. To complete a Mahler symphony cycle with my orchestra is such a special and important project for me, the warm response from audiences has been fantastic, testament to our fine musicians. I really feel that I know this orchestra well. There are so many possibilities for the future, and I hope we keep surprising each other too!”

Michael Garvey, Director of BBC NOW, says: “As Wales’ national orchestra, we are proud to have an artist of Thomas’s calibre and musicality as our Principal Conductor and I’m delighted we are today announcing that relationship will continue for at least two more years. We’ve achieved much in Thomas’s first period with us and there is even more to look forward to in the next few years: continuing our adventures with Mahler; rich and inspiring live performances for our audiences here in Wales and the UK; and aspirations to travel further afield with Thomas on tour. We've an exciting few years ahead!"

Søndergård’s repertoire is broad, ranging from large symphonic works to refined classical pieces as well as new music. Other recent highlights have included a performance of Rachmaninov’s choral symphony The Bells, the UK premiere of Debussy’s Nocturne for Violin and Orchestra, completed and orchestrated by Robert Orledge, a performance marking the Dutilleux centenary live on BBC Radio 3, and four performances during the BBC Proms 2015 season including the world premiere of B Tommy Andersson’s Pan.

Søndergård opens BBC NOW’s 2016-2017 season on 13 October at St David’s Hall with a performance of Stravinsky’s Firebird and Ibert’s Flute Concerto for which flautist Emily Beynon joins the orchestra. The programme also includes Debussy’s Prélude à l'après-midi d'un faune and Ravel’s Sheherazade

Alongside his role with BBC NOW, Danish conductor Thomas Søndergård is also Principal Guest Conductor of Royal Scottish National Orchestra (RSNO). He was Principal Conductor and Musical Advisor of the Norwegian Radio Orchestra from 2009-2012. Highlights of recent seasons include four contrasting programmes at BBC Proms (with BBC NOW), successful debuts with Philharmonia Orchestra, Gothenburg, Atlanta, Brussels, Oslo and Luxembourg Philharmonics, Seattle, Sydney, Vancouver, Houston and BBC Symphonies, European touring with Junge Deutsche Philharmonie and EUYO and visits to Rotterdam Philharmonic, Aspen Festival, Danish National Symphony, CBSO, Bamberg Symphony.

Søndergård has also been involved in the BBC initiative Ten Pieces, which aims to open up classical music to primary school children across the UK. His involvement, alongside the BBC NOW, culminated in two performances at the BBC Proms 2015. This season, he made his Mahler Chamber Orchestra debut at 2015 Musikfest Berlin and following its great success has been invited back. Other engagements this season include a return to DSO Berlin, Houston, Atlanta and Danish National Symphony Orchestras.

Søndergård is also an experienced opera conductor, and last season conducted Les dialogues des Carmelites at Royal Stockholm Opera. In the 2012/13 season he appeared at both the Royal Danish Opera (The Cunning Little Vixen) and also Royal Swedish Opera (Turandot with Nina Stemme), following his success there with Tosca in 2011. In 2008, he made his Stuttgart Staatsoper debut (Tosca), returning in 2010 for their new production of Luisa Miller. Next season, he makes his debut for Deutsche Oper Berlin with a new production. In Spring 2015 Søndergård and BBC NOW released their first commercial recording of Sibelius Symphonies 2 and 7 (LINN records). Other noteworthy recordings include Vilde Frang's celebrated first recording for EMI, and Ruder’s Second Piano Concerto on Bridge Records which was nominated for a Gramophone Award in 2011.

JM6

Welsh Language Version

Prif Arweinydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Thomas Søndergård, yn ymestyn ei gontract

Heddiw, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW) wedi cyhoeddi y bydd y Prif Arweinydd Thomas Søndergård yn ymestyn ei gontract am o leiaf ddwy flynedd arall.

Cafodd Søndergård ei benodi’n Brif Arweinydd yn 2011, a dechreuodd yn ei swydd fis Medi 2012. Yn sgil y contract newydd, bydd yn parhau’n Brif Arweinydd tan o leiaf 2018. Mae ei uchafbwyntiau â’r gerddorfa hyd yn hyn yn cynnwys ymdrin â symffonïau Mahler. Mae BBC NOW wedi perfformio symffonïau rhif 2, 4, 5 a 9 gyda Søndergård a bydd yn dod â thymor 2015-16 i ben gyda pherfformiad o Symffoni Rhif 1 ar 16 Mehefin 2016 yn Neuadd Brangwyn ac ar 17 Mehefin 2016 yn Neuadd Dewi Sant. Bydd BBC NOW, dan arweiniad Søndergård, yn bwrw ymlaen â gwaith Mahler dros gyfnod nesaf y contract.

Dywedodd Thomas Søndergård: “Rydw i mor falch fy mod yn ymestyn fy nghontract gyda’r gerddorfa hyfryd ac angerddol hon. Rydyn ni ar daith gerddorol gyffrous gyda’n gilydd ac rydyn ni wedi cynnal nifer o berfformiadau cyffrous hyd yn hyn. Mae ymdrin â symffonïau Mahler gyda fy ngherddorfa yn brosiect pwysig ac arbennig iawn i mi. Mae ymateb brwd ein cynulleidfaoedd wedi bod yn wych, ac yn glod i’n cerddorion arbennig. Rwy’n teimlo fy mod i wir yn adnabod y gerddorfa’n dda. Mae llawer iawn o bosibiliadau ar gyfer y dyfodol, ac rydyn ni’n gobeithio parhau i synnu ein gilydd hefyd!”

Dywedodd Michael Garvey, Cyfarwyddwr BBC NOW: “Fel cerddorfa genedlaethol Cymru, rydyn ni’n falch iawn o gael artist mor gerddorol ac o safon mor uchel â’n Prif Arweinydd, ac rwyf wrth fy modd ein bod ni’n cyhoeddi heddiw y bydd y berthynas yn parhau am o leiaf ddwy flynedd arall. Rydyn ni wedi llwyddo i wneud llawer iawn yn ystod cyfnod cyntaf Thomas gyda ni ac mae hyd yn oed mwy i edrych ymlaen ato yn y blynyddoedd nesaf; ein hanturiaethau â Mahler, perfformiadau byw cyfoethog ac ysbrydoledig ar gyfer ein cynulleidfaoedd yng Nghymru a’r DU, a’r gobaith fynd ymhellach hefyd gyda Thomas ar daith. Mae digwyddiadau cyffrous i ddod dros y blynyddoedd nesaf!”

Mae repertoire Søndergård yn amrywio o weithiau symffonig mawr i ddarnau clasurol coeth, yn ogystal â cherddoriaeth newydd. Mae uchafbwyntiau diweddar eraill yn cynnwys perfformiad o symffoni gorawl Rachmaninov, Y Clychau, y perfformiad cyntaf erioed yn y DU o Nocturne gan Debussy i’r Fiolin a’r Gerddorfa (wedi'i gwblhau a’i drefnu i gerddorfa gan Robert Orledge), perfformiad i nodi canmlwyddiant Dutilleux yn fyw ar BBC Radio 3, a phedwar perfformiad yn ystod tymor Proms y BBC 2015, gan gynnwys premiere byd o Pan gan B Tommy Andersson.

Bydd Søndergård yn dechrau tymor 2016-17 BBC NOW ar 13 Hydref yn Neuadd Dewi Sant gyda pherfformiad o Firebird gan Stravinsky a Choncerto i’r Ffliwt gan Ibert, lle bydd y ffliwtydd Emily Beynon yn ymuno â’r gerddorfa. Hefyd, bydd y rhaglen yn cynnwys Prélude à l'après-midi d'un faune gan Debussy a Sheherazade gan Ravel.

Yn ogystal â’i rôl â BBC NOW, mae’r arweinydd o Ddenmarc, Thomas Søndergård, hefyd yn Brif Arweinydd Gwadd gyda Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban. Roedd yn Brif Arweinydd ac yn Ymgynghorydd Cerddorol gyda Cherddorfa Radio Norwy rhwng 2009 a 2012. Mae uchafbwyntiau’r tymhorau diwethaf yn cynnwys pedair rhaglen gyferbyniol ym Mhroms y BBC (gyda BBC NOW), perfformiadau cyntaf gyda Cherddorfa Philharmonia, Cerddorfeydd Ffilharmonig Gothenburg, Atlanta, Brwsel, Oslo a Luxembourg; Cerddorfeydd Symffonig Seattle, Sydney, Vancouver, Houston a’r BBC; teithio yn Ewrop gyda Junge Deutsche Philharmonie a Cherddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd, ac ymweliadau â Cherddorfa Ffilharmonig Rotterdam, Gŵyl Aspen, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc a Cherddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham a Bamberg. Hefyd, mae Søndergård wedi bod yn rhan o fenter Deg Darn y BBC, sy’n ceisio cyflwyno cerddoriaeth glasurol i blant mewn ysgolion cynradd ledled y DU. Arweiniodd ei ran yn hynny, ynghyd â BBC NOW, at ddau berfformiad ym Mhroms y BBC yn 2015. Y tymor hwn, arweiniodd Gerddorfa Siambr Mahler am y tro cyntaf ym Musikfest Berlin 2015 ac, yn dilyn ei lwyddiant ysgubol, cafodd ei wahodd yn ôl yno. Mae ei ymrwymiadau y tymor hwn yn cynnwys dychwelyd at Deutsches Symphonie-Orchester Berlin ac at Gerddorfeydd Symffoni Cenedlaethol Demnarc, Houston ac Atlanta. Mae Søndergård yn arweinydd opera profiadol hefyd, a’r tymor diwethaf arweiniodd Les dialogues des Carmelites yn Opera Brenhinol Stockholm. Yn nhymor 2012/13, bu’n gweithio gydag Opera Brenhinol Denmarc (The Cunning Little Vixen) ac Opera Brenhinol Sweden (Turandot gyda Nina Stemme), yn dilyn ei lwyddiant â Tosca yn 2011. Perfformiodd am y tro cyntaf gyda Stuttgart Staatsoper (Tosca) yn 2008, a dychwelodd yn 2010 ar gyfer eu perfformiad newyddd o Luisa Miller. Y tymor nesaf, bydd yn arwain Deutsche Oper Berlin am y tro cyntaf gyda chynhyrchiad newydd. Yn ystod y gwanwyn, rhyddhaodd Søndergård a BBC NOW eu recordiad masnachol cyntaf o Symffonïau 2 a 7 Sibelius (recordiau LINN). Mae recordiadau nodedig eraill yn cynnwys recordiad cyntaf Vilde Frang ar gyfer EMI ac Ail Goncerto Ruder i’r Piano ar Bridge Records, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gramophone yn 2011.

JM6