BBC Wales to launch its first pop-up radio station
BBC Wales will today launch its first ever pop-up radio station, as BBC Radio Cymru Mwy takes to the digital airwaves. A BBC Radio Cymru pilot, the pop-up is part of a series of digital innovations from the national Welsh-language radio station as it approaches its 40th birthday.

There’s no doubt that Radio Cymru Mwy will offer a very different listening experience, with more music and more chat; offering Welsh speakers a choice of listening in the morning
With the emphasis on more music and more fun, the pop-up station will broadcast every weekday morning culminating on 2 January 2017, 40 years to the eve of BBC Radio Cymru’s first broadcast on 3 January 1977.
For the first time in its history, BBC Radio Cymru will offer a choice of listening with a lively breakfast show on BBC Radio Cymru Mwy. The daily news programme, Post Cyntaf followed by the Aled Hughes Programme will continue on BBC Radio Cymru. The pop-up’s schedule will continue until midday, with an option to experiment occasionally with lunch-time programmes.
Betsan Powys, Editor BBC Radio Cymru says: “There’s no doubt that Radio Cymru Mwy will offer a very different listening experience, with more music and more chat; offering Welsh speakers a choice of listening in the morning.
“We’ve been clear from the start that this is a pilot, an innovative experiment that will offer the opportunity to trial new sounds and new concepts. All this while listeners can continue to listen to the output they enjoy on BBC Radio Cymru in exactly the same way as they do now.”
From 7am, Radio Cymru Mwy will offer a lively breakfast show full of music and chat, whilst Post Cyntaf will broadcast the latest news on BBC Radio Cymru. Celebrity singer-songwriter Caryl Parry Jones will present the very first show this morning. Other popular voices such as Ifan Evans, Huw Stephens and Dylan Ebenezer will follow in her footsteps over the next fifteen weeks.
From 10am until 12noon new and familiar voices will take to the airwaves; Swansea comedian Steffan Alun, Cardiff DJ Elan Evans and Gwennan Mair from Llan Ffestiniog.
BBC Radio Cymru Mwy will be available throughout Wales on BBC Radio Cymru Mwy’s website, the BBC iPlayer Radio app and on DAB radio in South East Wales. BBC Radio Cymru’s timetable will remain the same on FM and on DAB.
Further information can be found at:
NTW
Welsh language version
BBC Cymru i lansio gorsaf radio dros dro am y tro cyntaf
Gyda BBC Radio Cymru Mwy yn lansio ar y tonfeddi digidol heddiw, mae’n nodi carreg filltir nodedig yn hanes BBC Cymru - yr orsaf dros dro cyntaf yn ei hanes. Yn gynllun peilot dan ofal Radio Cymru, mae’r orsaf dros dro yn rhan o gyfres o ddatblygiadau digidol gan y gwasanaeth cenedlaethol ar drothwy ei phen-blwydd yn ddeugain oed.
Dros gyfnod o bymtheg wythnos bydd y pwyslais ar fwy o gerddoriaeth a hwyl gyda BBC Radio Cymru Mwy yn darlledu yn ystod bore’r wythnos waith. Daw’r peilot i ben ar 2 o Ionawr 2017, ddeugain mlynedd union i noswyl lansio BBC Radio Cymru ar yr 3 Ionawr 1977.
Sioe frecwast lawn cerddoriaeth fydd am 7 y bore, gyda BBC Radio Cymru yn cynnig dewis o raglenni boreol am y tro cyntaf erioed, gyda’r rhaglen newyddion ddyddiol, Post Cyntaf a Rhaglen Aled Hughes yn parhau ar BBC Radio Cymru. Bydd rhaglenni yr orsaf dros dro yn parhau tan o leia’ hanner dydd, gyda’r bwriad i arbrofi o bryd i’w gilydd gyda darllediadau dros ginio.
Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Os mai cerddoriaeth cwmni a chwerthin yw’ch dewis chi yn y bore, dyna fydd swn Radio Cymru Mwy. Ac mae gallu cynnig y dewis holl bwysig i Gymry Cymraeg bob bore yn hynod o gynhyrfus.
“Mae’n rhaid cofio mai arbrawf yw hwn fydd yn rhoi cyfle i ni asesu be’ sy’n bosibl dros gyfnod penodol. Mae hi’n gyfnod o newid mawr ym myd darlledu ac mae’n bwysig ein bod ni’n ymchwilio sawl trywydd wrth geisio sicrhau ein bod ni’n ateb galw’r gwrandawyr.”
Brenhines canu pop Cymraeg, Caryl Parry Jones fydd llais cyntaf yr orsaf y bore ’ma, wrth iddi gyflwyno’r Sioe Frecwast. Bydd cyflwynwyr poblogaidd fel Ifan Evans, Huw Stephens a Dylan Ebenezer yn dilyn dros y pymtheg wythnos nesaf.
O 10am tan 12pm, bydd cyfle i wrando ar leisiau newydd a chyfarwydd; y digrifwr Steffan Alun o Abertawe, y DJ o Gaerdydd Elan Evans a Gwennan Mair o Lan Ffestiniog.
Ar gael drwy Gymru gyfan, bydd modd gwrando ar Radio Cymru Mwy ar wefan Radio Cymru Mwy, ar yr ap BBC iPlayer Radio drws nesa i Radio Cymru ac fel dewis arall ar radio digidol DAB yn y de ddwyrain. Bydd amserlen Radio Cymru yn aros fel ag y mae ar FM ac ar DAB drwy Gymru.
Mae manylion pellach i’w cael ar:
Mi fydd modd cynnig adborth drwy gysylltu gyda dweudmwy@bbc.co.uk
NTW
