BBC Radio Cymru Mwy takes to the digital airwaves
BBC Radio Cymru’s pop-up station, BBC Radio Cymru Mwy will take to the digital airwaves and from Monday, 19 September.
Published: 2 August 2016

The name BBC Radio Cymru Mwy says it all - more music, laughter and more choice for BBC Radio Cymru listeners
English language version
BBC Radio Cymru Mwy, a BBC Radio Cymru pilot, is part of a series of digital innovations from the national Welsh-language radio station as it approaches its 40th birthday. With the emphasis on more music and easy listening, the 15-week pop-up station will broadcast every weekday morning culminating on 2 January 2017, 40 years to the eve of BBC Radio Cymru’s first broadcast on 3 January 1977.
For the first time in its history, BBC Radio Cymru will offer a choice of listening with a lively breakfast show on BBC Radio Cymru Mwy. The daily news programme, Post Cyntaf followed by the Aled Hughes Programme will continue on BBC Radio Cymru. The pop-up’s schedule will continue until midday, with an option to experiment occasionally with lunch-time programmes.
BBC Radio Cymru Mwy will be available throughout Wales on BBC Radio Cymru’s website, the BBC iPlayer Radio app and on DAB radio in South East Wales. BBC Radio Cymru’s timetable will remain the same on FM and on DAB.
Betsan Powys, BBC Radio Cymru’s Editor says: “The name BBC Radio Cymru Mwy says it all - more music, laughter and more choice for BBC Radio Cymru listeners.
“As we prepare to celebrate BBC Radio Cymru’s landmark 40th birthday in 2017, it’s imperative that we continue to develop and innovate. The pop-up station is an opportunity for us to take advantage of new technology, but more importantly it gives listeners greater choice and the chance to listen to BBC Radio Cymru on new platforms. All this while listeners can continue to listen to the output they enjoy on BBC Radio Cymru in exactly the same way as they do now.”
As part of the innovative digital developments, BBC Radio Cymru will also collaborate with various partners to find new voices and utilise the new BBC Music app, which allows users to select their favourite music, including Welsh artists.
Notes to Editors
The series of digital initiatives includes:
- A fifteen week pop-up station during the autumn, offering even more programme choice for listeners
- For technical reasons, the additional DAB provision is limited to South East Wales
- Creating new partnerships which build on the existing Radio Cymru school tours
- Utilising the new BBC Music app, which enables listeners to select their favourite music, including Welsh artists
- Experimentation with ‘Unnos’ sessions
- Collaboration with S4C’s Cyw to encourage young children to create a new character for the Stori Tic Toc series on Sunday evenings
NTW
Welsh language version
BBC Radio Cymru Mwy fydd enw gorsaf dros dro y gwasanaeth cenedlaethol, gyda’r rhaglenni yn fyw arlein o ddydd Llun, 19 Medi.
Mae BBC Radio Cymru Mwy, sy’n gynllun peilot, yn rhan o gyfres o ddatblygiadau digidol gan y gwasanaeth cenedlaethol ar drothwy ei phenblwydd yn ddeugain oed. Dros gyfnod o bymtheg wythnos bydd pwyslais ar fwy o gerddoriaeth a hwyl gyda BBC Radio Cymru Mwy yn darlledu yn ystod bore’r wythnos waith. Daw’r peilot i ben ar 2 o Ionawr 2017, ddeugain mlynedd union i noswyl lawnsio BBC Radio Cymru ar yr 3 Ionawr 1977.
Sioe frecwast fyrlymus fydd yn cychwyn y darlledu am 7 y bore, gyda BBC Radio Cymru yn cynnig dewis o raglenni boreol am y tro cyntaf erioed, gyda’r rhaglen newyddion dyddiol, Post Cyntaf a Rhaglen Aled Hughes yn parhau ar BBC Radio Cymru. Bydd rhaglenni yr orsaf dros dro yn parhau tan o leia’ hanner dydd, gyda'r bwriad i arbrofi o bryd i’w gilydd gyda darllediadau dros ginio.
Ar gael drwy Gymru gyfan, bydd modd gwrando ar wefan BBC Radio Cymru, ar yr ap BBC iPlayer Radio ac fel dewis arall ar radio DAB yn y de ddwyrain. Bydd amserlen BBC Radio Cymru yn aros fel ag y mae ar FM ac ar DAB.
Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Mae’r enw BBC Radio Cymru Mwy yn dweud y cyfan –mwy o gerddoriaeth, mwy o chwerthin a mwy o ddewis i wrandawyr BBC Radio Cymru.
“Wrth i BBC Radio Cymru agosau at y penblwydd mawr yn ddeugain oed yn 2017, mae’n holl bwysig ein bod ni’n parhau i arloesi a thorri tir newydd. Mae’r orsaf dros dro yn gyfle i ni fanteisio ar y dechnoleg newydd ond yn bwysicach mae’n gyfle i wrandawyr fwynhau mwy o ddewis yn ogystal â gwrando ar gynnyrch BBC Radio Cymru mewn ffyrdd newydd. A hyn oll heb ddiethrio gwrandawyr ffyddlon BBC Radio Cymru fydd yn parhau i wrando yn yr un modd.”
Fel rhan o’r cynlluniau digidol arloesol, bydd BBC Radio Cymru hefyd yn cydweithio gyda phartneriaid i feithrin lleisiau newydd a manteisio ar ap cerddoriaeth newydd y BBC, sy’n rhoi’r gallu i ddefnyddwyr ddewis eu hoff gerddoriaeth, gan gynnwys artistiaid Cymraeg.
Nodiadau i olygyddion
Mae’r pecyn o ddigwyddiadau digidol yn cynnwys:
- Arbrawf tri mis i greu gorsaf radio dros dro yn ystod tymor yr hydref, fydd yn cynnig mwy o ddewis rhaglenni i wrandawyr
- Bydd y dewis DAB ar gael yn y de ddwyrain yn unig am resymau technegol
- Sefydlu partneriaethau newydd sy’n adeiladu ar daith ysgolion Radio Cymru
- Gwneud yn fawr o ap cerddoriaeth newydd y BBC, sy’n rhoi’r gallu i ddefnyddwyr ddewis eu hoff gerddoriaeth, yn cynnwys artistiaid Cymraeg
- Arbrofi gyda’r sesiynau Unnos
- Cydweithio â chriw Cyw S4C i annog gwrandawyr ifanc i greu cymeriad newydd i serennu yn Stori Tic Toc ar nos Sul
NTW
