S4C comes to BBC iPlayer

From 4 December Welsh language broadcaster S4C’s programmes will be available to view live and on demand on BBC iPlayer.

Published: 4 December 2014
This important development makes a wealth of Welsh language output available in one place for the very first time.
— Rhodri Talfan Davies, Director, BBC Cymru Wales

English Language Version

Appearing as a full channel on BBC iPlayer, S4C programmes will be available for 30 days to stream, with downloads coming soon. This includes programmes such as the new romantic comedy drama Cara Fi (Love Me), entertainment highlights in the Christmas schedule including those fronted by Bryn Terfel and Only Men Aloud. And on New Year's Day the first screening of the one off special episode of detective drama Y Gwyll/Hinterland.

Inclusion of S4C on BBC iPlayer builds on the partnership between the two broadcasters, and ensures that S4C programming is available across the widest range of platforms. These programmes join the Welsh-language output created by BBC Cymru such as Pobol y Cwm currently available on BBC iPlayer. S4C will be the only independent channel available on iPlayer.

Rhodri Talfan Davies, Director BBC Cymru Wales says: “It’s fantastic to welcome S4C to BBC iPlayer. This important development makes a wealth of Welsh language output available in one place for the very first time - across S4C and BBC Radio Cymru - making it even easier for audiences to find the programmes they love. It's also a very tangible example of how the creative partnership that exists between the two broadcasters is making a real difference.”

Ian Jones, S4C Chief Executive, says: “It has been great to have worked together in partnership with the BBC to ensure that S4C content is now available on BBC iPlayer. This is integral to S4C's strategy set out at the beginning of 2012 of ensuring that S4C’s content is available anytime, anyplace, anywhere.

“As the only independent broadcaster to offer content on BBC iPlayer, we hope that it will offer additional opportunities for the public to view the fantastic range of content S4C broadcasts. This will be a very welcome addition to the range of platforms and services through which S4C content is available, and help maintain the huge growth we have seen in those accessing our programmes online.”

Notes to Editors

  • Launching in December 2007 as a simple catch-up website, BBC iPlayer has helped pioneer TV on demand by offering audiences the opportunity to watch selected BBC programmes for up to 30 days after broadcast
  • BBC iPlayer has since evolved, adding more TV programmes; including entire series, films and exclusive content, live TV channels, programme downloads for offline viewing and personalisation features such as Favourites and recommendations
  • Variants of BBC iPlayer optimised for over 1200 mobiles, tablets and connected TVs are also available, allowing audiences to catch-up or watch live wherever they are and on whatever device – offering access on the move over 3G and Wi-Fi , or simple & convenient access via broadband on TV. S4C content is immediately available on many prominent BBC iPlayer outlets, with other platforms to follow soon.
  • Since launch there has been over 10 billion requests on BBC iPlayer for TV and radio programmes.
  • All S4C programmes are available on the channel's own online on demand service S4C Clic.
  • BBC Cymru Wales and S4C have an ongoing strategic partnership which safeguards current levels of investment in programmes for S4C until 2016/17. The agreement, which guarantees the statutory minimum 520 hours of programming supplied to S4C each year by BBC Cymru Wales, maintains the level of BBC Cymru Wales’ investment in original Welsh language television programming produced free of charge for S4C. Both organisations also collaborate on a range of creative projects including hit detective drama Y Gwyll/Hinterland.
  • S4C is part-funded by the licence fee, through the BBC Trust, contributing £76m to S4C’s annual revenue.

 CD

Welsh Language Version

S4C ar BBC iPlayer

O'r 4ydd o Ragfyr bydd rhaglenni'r sianel deledu Gymraeg S4C ar gael yn fyw ac ar alw ar BBC iPlayer.

Bydd S4C yn ymddangos ymhlith y rhestr o brif sianeli BBC iPlayer, gyda'r rhaglenni ar gael i'w gwylio am 30 diwrnod, a bydd y gwasanaeth lawr lwytho yn dilyn yn fuan. Ymhlith y rhaglenni y gall gwylwyr eu mwynhau drwy'r gwasanaeth fydd y gyfres ddrama gomedi newydd Cara Fi, a gallwn hefyd edrych ymlaen at rai o uchafbwyntiau adloniant y Nadolig, yng nghwmni Bryn Terfel ac Only Men Aloud ymhlith eraill. Ac ar Ddydd Calan, bydd dangosiad cyntaf pennod arbennig newydd hir ddisgwyliedig y ddrama dditectif Y Gwyll / Hinterland.

Mae cynnwys S4C ar BBC iPlayer yn adeiladu ar y berthynas rhwng y ddau ddarlledwr, ac yn golygu bod rhaglenni S4C ar gael ar ystod eang o blatfformau. Mae'r rhaglenni yn ychwanegu at y ddarpariaeth Gymraeg sydd eisoes ar gael ar BBC iPlayer, fel Pobol y Cwm sy'n gynhyrchiad gan BBC Cymru Wales. S4C yw'r unig sianel annibynnol fydd ar gael ar BBC iPlayer.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: "Mae'n wych croesawu S4C i BBC iPlayer. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig sy'n tynnu ynghyd cyfoeth o gynnyrch yn yr iaith Gymraeg gyda'i gilydd am y tro cyntaf mewn un man - yn cynnwys rhaglenni S4C a BBC Radio Cymru - gan ei gwneud hi'n haws nag erioed o'r blaen i'r gynulleidfa ddod o hyd i'r rhaglenni maen nhw'n eu mwynhau. Mae hefyd yn enghraifft amlwg o’r ffordd mae'r bartneriaeth greadigol sy'n bodoli rhwng y ddau’n gwneud gwir wahaniaeth."

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae wedi bod yn wych i weithio mewn partneriaeth â'r BBC er mwyn sicrhau bod cynnwys S4C nawr ar gael ar BBC iPlayer. Mae sicrhau bod cynnwys S4C ar gael unrhyw bryd, unrhyw le ac mewn unrhyw ffordd yn rhan annatod o strategaeth S4C ers dechrau 2012.

"Fel yr unig ddarlledwr annibynnol i gynnig cynnwys ar BBC iPlayer, rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i'r cyhoedd weld yr amrywiaeth gwych o raglenni rydyn ni'n eu cynnig. Mae BBC iPlayer yn ychwanegu at y nifer o wasanaethau a phlatfformau sydd eisoes yn cynnig ffyrdd o wylio S4C, ac yn hwb i gynnal y nifer cynyddol o bobl sy'n dewis gwylio ein cynnwys ar-lein."

Nodiadau i Olygyddion

 

• Lansiwyd BBC iPlayer ym mis Rhagfyr 2007 fel gwefan ar alw syml, ac ers hynny mae wedi helpu i arloesi yn y maes teledu ar alw drwy gynnig cyfleoedd i wylio rhai rhaglenni BBC am hyd at 30 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf.

• Ers hynny mae BBC iPlayer wedi esblygu, ac wedi ychwanegu at y dewis o raglenni sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys cyfresi llawn, ffilmiau a chynnwys ecsgliwsif, sianel deledu a radio byw. Hefyd y dewis i lawr lwytho er mwyn gwylio pan nad oes modd cysylltu â'r rhyngrwyd a gwasanaethau personol fel y rhestr o ffefrynnau ac awgrymiadau.

• Mae fersiynau o BBC iPlayer wedi ei datblygu ar gyfer 1200 o ffonau symudol, tabledi a setiau teledu sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd. Mae hyn yn caniatáu i'r gynulleidfa wylio'n fyw neu ar alw ble bynnag maen nhw ac ar ba bynnag ddyfais sydd ganddynt, gan gynnig mynediad drwy 3G a Wi-Fi, neu fynediad syml a chyfleus yn defnyddio band llydan ar y teledu yn yr ystafell fyw. Mae cynnwys S4C ar gael yn syth ar lawer o'r dyfeisiadau mwyaf blaenllaw drwy BBC iPlayer, gyda platfformau eraill i ddilyn yn fuan.

• Ers lansio bu dros 10 biliwn o geisiadau ar BBC iPlayer ar gyfer rhaglenni teledu a radio.

• Mae holl raglenni S4C ar gael i'w gwylio ar wasanaeth ar-lein ac ar alw'r sianel, S4C Clic.

• Mae gan BBC Cymru Wales a S4C bartneriaeth strategol sy'n diogelu lefelau buddsoddiad yn rhaglenni S4C tan 2016/17. Mae'r cytundeb, sy'n gwarantu isafswm o 520 awr o raglenni i S4C bob blwyddyn gan BBC Cymru Wales yn cynnal buddsoddiad BBC Cymru Wales mewn cynnwys gwreiddiol Cymraeg ar deledu wedi ei greu am ddim ar gyfer S4C. Mae’r ddau sefydliad hefyd yn cydweithio ar amryw o brosiectau creadigol yn cynnwys y ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland.

• Mae S4C wedi ei hariannu'n rhannol gan y ffi drwydded, drwy Ymddiriedolaeth y BBC, sy'n cyfrannu £76m i refeniw blynyddol S4C.