Y Gwobrau

Mae’r Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn dathlu’r pethau gwych mae pobl yn eu cyflawni i wneud ein cymunedau’n lleoedd gwych i fyw ynddynt.

Dywedwch wrthym pwy yw’ch arwr yn eich cymuned chi. Mae'r enwebiadau nawr wedi cau.

Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid a bydd gwobrau’n cael eu rhoi yn yr wyth categori canlynol:

  • Gwobr Gwirfoddoli
  • Gwobr Arwr Ifanc
  • Gwobr Cymydog Arbennig
  • Gwobr Egnïol
  • Gwobr Anifeiliaid
  • Gwobr Werdd
  • Gwobr Codi Arian
  • Gwobr Grŵp Cymunedol

Bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn cael gwybod ddechrau’r haf a byddant yn cael eu gwahodd i’r seremoni wobrwyo ar 20 Medi 2025 yng Nghaerdydd. Cliciwch yma i weld rheolau’r gwobrau a’n hysbysiad preifatrwydd yn llawn.

Dilynwch hynt y gwobrau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #BBCGwneudGwahaniaeth

Cliciwch i enwebu

  • Gwobr Gwirfoddolwr

    Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud gwahaniaeth amlwg yn eu cymuned drwy roi eu hamser yn wirfoddol er mwyn helpu eraill.
  • Gwobr Arwr Ifanc

    Dyma wobr i rywun dan 16 mlwydd oedd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol.
  • Gwobr Cymydog Arbennig

    Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud y gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddi, unai'n gyson neu drwy un weithred garedig.
  • Gwobr Actif

    Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi defnyddio ymarfer corff neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau'r sawl sy'n byw yn eu cymuned.
  • Gwobr Anifail

    Dyma wobr i anifail sy'n gwella bywyd unigolyn neu grŵp o bobl; neu, berson neu grŵp o bobl sy'n gweithio gydag anifeiliaid i wella lles anifeiliaid.
  • Gwobr Werdd

    Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl sy'n gwella neu'n gwarchod yr amgylchedd yn eu hardal leol.
  • Gwobr Codi Arian

    Dyma wobr i unigolyn neu grŵp sydd wedi mynd yr ail filltir wrth godi arian at achos da.
  • Gwobr Grŵp Cymunedol cefnogir gan Morning Live

    Dyma wobr i grŵp o bobl sydd wedi helpu i newid bywydau pobl yn eu cymuned.
  • Cyngor Enwebu

    Cliciwch yma am restr o gynghorion ynglŷn â sut i fynd ati i lenwi'r ffurflen enwebiadau.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: