Hysbysiad Preifatrwydd

Updated: 23 February 2026

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio data personol o’r fath. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.

Pam rydym yn gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan? 

Mae’r BBC yn rhoi cyfle i chi enwebu unigolyn neu grŵp ar gyfer y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth, sy’n cydnabod arwyr tawel o bob cwr o’r DU.

Gallwch enwebu unigolyn/unigolion ar gyfer un o’r categorïau canlynol:

  • Gwobr Gwirfoddoli
  • Gwobr Arwr Ifanc 
  • Gwobr Cymydog Arbennig 
  • Gwobr Actif  
  • Gwobr Anifeiliaid 
  • Gwobr Amgylcheddol  
  • Gwobr Codi Arian  
  • Gwobr Grŵp Cymunedol (a gefnogir gan Morning Live) 

Bydd y BBC yn casglu data personol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y BBC.

Gofynnwn i chi ofyn am ganiatâd gan eich enwebai cyn ei enwebu, gan roi gwybod iddo pa ddata personol rydych chi’n mynd i’w rannu â ni, ac anfon copi o’r hysbysiad preifatrwydd hwn ato.

Bydd pedwar (4) unigolyn neu grŵp ar y rhestr fer ar gyfer pob categori. Byddwn yn cysylltu â’r rhai sydd ar y rhestr fer i gymryd rhan mewn cyfweliad darlledu, ac yn eu gwahodd i seremoni wobrwyo neu i gymryd rhan mewn rhaglen wobrwyo ar y radio neu ar y teledu yn eu rhanbarth, a fydd yn cael ei recordio lle bydd enillydd pob categori yn cael ei gyhoeddi.

Os bydd eich enwebai’n ymddangos mewn darllediad, gall hyn olygu bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio ei gyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio cyfraniad yr enwebai at ddibenion hyrwyddo ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y BBC.

Rydym yn defnyddio offer trawsgrifio awtomataidd i drosi cyflwyniadau sain a fideo yn destun. Gall hyn gynnwys trawsgrifio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r holl gyflwyniadau’n cael eu hadolygu gan staff y BBC.

I gael gwybod sut bydd y BBC yn prosesu data personol pan fydd unigolion yn cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr.

 

Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu?

Data personol amdanoch chi (yr enwebydd)

  • Enw llawn
  • Oedran
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Eich perthynas â’r enwebai

Data personol am eich enwebai

  • Enw llawn
  • Oedran
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Y ddinas/tref/pentref agosaf sy’n ymwneud â’ch enwebiad
  • A yw’r enwebiad yn ymwneud â grŵp, ac a yw’r enwebai yn aelod, yn gadeirydd, yn sylfaenydd neu’n ymddiriedolwr o’r grŵp hwnnw

Os yw eich enwebai o dan 18 oed, bydd angen i ni hefyd gael caniatâd rhiant/gwarcheidwad. Yn yr achos hwn, byddwn yn gofyn am enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y rhiant/gwarcheidwad.

Data categori arbennig

Yn dibynnu ar yr hyn mae eich cyflwyniad yn ei gynnwys, efallai y byddwn yn prosesu data categori arbennig am eich enwebai, gan gynnwys:

  • Gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Hil neu ethnigrwydd
  • Credoau crefyddol neu athronyddol

 

Archwiliadau ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol 

Bydd y BBC yn cynnal archwiliadau cefndirol ar y rhai sydd ar y rhestr fer, sy’n cynnwys archwiliadau sgrinio ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol. Rydym yn defnyddio’r data personol sy’n cael ei brosesu fel rhan o wiriadau cefndir i sicrhau cymhwysedd. Mae’n bosibl na fydd gwybodaeth a ddaw i’r amlwg fel rhan o wiriad cefndir yn eich gwahardd o’r gwobrau, ond gallai peidio â datgelu gwybodaeth berthnasol, a ganfyddir yn ddiweddarach, arwain at eich eithrio o’r gwobrau.

Pwy yw’r Rheolydd Data? 

Y BBC yw Rheolydd Data eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r BBC fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn unig.

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol 

Mae’r ffordd y mae’r BBC yn prosesu eich data personol a data categori arbennig wedi’i seilio’n gyfreithiol ar gyflawni ei rôl gyhoeddus. Yr amod prosesu ychwanegol ar gyfer data categori arbennig yw budd sylweddol i’r cyhoedd sy’n ymwneud â dibenion statudol a llywodraethol.

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol hefyd i brosesu data personol yr enillwyr er mwyn cydymffurfio â rheoliadau cystadleuaeth perthnasol.

Buddiant dilys yw’r sail gyfreithiol ar gyfer archwiliadau ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae diogelu’r Gwobrau ac enw da corfforaethol y BBC yn fuddiant dilys i’r BBC. Rydym wedi ystyried yn ofalus yr effaith ar unigolion, ac ni fyddwn yn defnyddio data personol pan fydd yr effaith yn fwy na’r buddiannau i ni.

Rhannu eich data personol 

Mae’r BBC yn gweithio gyda darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y BBC y mae’r partneriaid hyn yn defnyddio eich data personol, ac nid yn annibynnol ar y BBC.

Efallai y bydd y rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr yn cael cynnig cyfleoedd neu brofiadau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth. Pan fydd hyn yn golygu gweithio gyda thimau eraill y BBC (gan gynnwys BBC Studios), partneriaid dibynadwy, neu ddarparwyr trydydd parti allanol, mae’n bosibl mai dim ond y data personol sydd ei angen arnom i gyflawni’r cyfle hwnnw y byddwn yn ei rannu. Gall hyn gynnwys rhannu manylion y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol â thrydydd partïon at ddibenion trefnu neu gyflawni cyfleoedd neu brofiadau dewisol yn unig, a dim ond lle bo angen. Dim ond ar ran y BBC y caiff y sefydliadau hyn ddefnyddio eich data personol, ac nid at eu dibenion eu hunain.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhannu data personol os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny. 

Cadw eich data personol

Cedwir pob cyflwyniad am ddwy (2) flynedd ar ôl y dyddiad cyflwyno – at ddibenion rheoleiddio a chydymffurfio ar gyfer yr enillwyr a’r rhai sy’n dod yn ail, ac er mwyn i ni allu cysylltu â chi os yw eich straeon yn addas ar gyfer darllediadau eraill.

Bydd cyfraniadau sy’n cael eu darlledu a/neu eu cyhoeddi yn cael eu cadw a’u harchifo am byth.

Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

 

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth 

Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:

  • Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r BBC yn ei storio amdanoch chi.
  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
  • Mae gennych hawl i ofyn am i’r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon, a gallai’r BBC wrthod eich cais.
  • Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
  • Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau neu os ydych am gael gwybod mwy am eich hawliau. Ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r BBC wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

 

Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn 

Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydym yn defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.

 

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: