Cyngor Enwebu

Mae’r gwobrau hyn yn dathlu pobl, grwpiau ac anifeiliaid sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill drwy fynd yr ail filltir.

Gallwch enwebu drwy ein ffurflen ar-lein sy’n casglu gwybodaeth amdanoch chi a’ch enwebai.

Ar y ffurflen, rydyn ni’n gofyn am enwebiad 250 gair. Dim ond y geiriau hyn y bydd y beirniaid yn eu gweld, a nhw fydd yn penderfynu pwy fydd yn ennill gwobr yn y pen draw.

Dyma rywfaint o awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu gyda’r broses.

  • Ysgrifennwch yn llafar a siaradwch o’r galon. Rydyn ni eisiau gwybod beth sy’n gwneud y person, y grŵp neu’r anifail hwn yn arbennig i chi.
  • Bydd beirniaid y rownd gyntaf yn seilio eu penderfyniad ar eich 250 gair chi yn unig, felly gwnewch i bob gair gyfrif a defnyddiwch gymaint o’r cyfrif geiriau â phosibl.
  • Meddyliwch am y pum cwestiwn sylfaenol wrth rannu eich cais gyda ni (Pwy, Beth, Pam, Ble a Sut).
  • Byddwch yn ddisgrifiadol a meddyliwch am yr holl synhwyrau i helpu’r beirniaid i weld, arogli, blasu a theimlo pa mor angerddol ydych chi dros berson, grŵp neu anifail.
  • Os oes gennych chi amser, darllenwch eich 250 gair yn uchel cyn ei anfon. Os yw’n anodd ei ddweud, bydd hefyd yn anodd i’r beirniaid ei ddarllen.
  • Ni fydd y beirniaid yn clicio ar unrhyw ddolenni gwe. Mae ychwanegu’r manylion hyn yn defnyddio geiriau’n ddibwrpas, felly peidiwch â’u cynnwys.
  • Ni fydd y beirniaid yn marcio sillafu, atalnodi na gramadeg.

Cofiwch, yn unol â’n Telerau ac Amodau, rydyn ni’n chwilio am straeon sy’n mynd y tu hwnt i waith cyflogedig neu weithgareddau gwirfoddoli, os yw hynny’n berthnasol i’ch enwebiad. Cliciwch yma i weld ein hysbysiad preifatrwydd a rheolau’r gwobrau, sy’n cynnwys manylion cymhwysedd a’r broses feirniadu.

Cliciwch i enwebu

  • Gwobr Gwirfoddolwr

    Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud gwahaniaeth amlwg yn eu cymuned drwy roi eu hamser yn wirfoddol er mwyn helpu eraill.
  • Gwobr Arwr Ifanc

    Dyma wobr i rywun dan 16 mlwydd oedd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol.
  • Gwobr Cymydog Arbennig

    Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud y gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddi, unai'n gyson neu drwy un weithred garedig.
  • Gwobr Actif

    Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi defnyddio ymarfer corff neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau'r sawl sy'n byw yn eu cymuned.
  • Gwobr Anifail

    Dyma wobr i anifail sy'n gwella bywyd unigolyn neu grŵp o bobl; neu, berson neu grŵp o bobl sy'n gweithio gydag anifeiliaid i wella lles anifeiliaid.
  • Gwobr Werdd

    Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl sy'n gwella neu'n gwarchod yr amgylchedd yn eu hardal leol.
  • Gwobr Codi Arian

    Dyma wobr i unigolyn neu grŵp sydd wedi mynd yr ail filltir wrth godi arian at achos da.
  • Gwobr Grŵp Cymunedol cefnogir gan Morning Live

    Dyma wobr i grŵp o bobl sydd wedi helpu i newid bywydau pobl yn eu cymuned.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: