Latest headlines in Welsh
- Llafur yn sicrhau 29 sedd
Canlyniadau
| Plaid | Ymgeiswyr | Pleidleisiau | % | Newid o ran seddau (%) |
|---|---|---|---|---|
| Plaid DRh Dem Rhydd Cymru | YmgeiswyrKirsty Williams | Pleidleisiau15,898 | 52.4% | Newid o ran seddau (%)+9.3 |
| Plaid CEID Ceidwadwyr Cymru | YmgeiswyrGary Price | Pleidleisiau7,728 | 25.4% | Newid o ran seddau (%)−7.9 |
| Plaid LLAF Llafur Cymru | YmgeiswyrAlex Thomas | Pleidleisiau2,703 | 8.9% | Newid o ran seddau (%)−8.0 |
| Plaid UKIP Plaid Annibyniaeth y DU | YmgeiswyrThomas Turton | Pleidleisiau2,161 | 7.1% | Newid o ran seddau (%)+7.1 |
| Plaid PC Plaid Cymru | YmgeiswyrFreddy Greaves | Pleidleisiau1,180 | 3.9% | Newid o ran seddau (%)−2.8 |
| Plaid GRDd Plaid Werdd Cymru | YmgeiswyrGrenville Ham | Pleidleisiau697 | 2.3% | Newid o ran seddau (%)+2.3 |
Newid o'i gymharu â 2011 | ||||
% a bleidleisiodd and Mwyafrif
Dem Rhydd Cymru Mwyafrif
8,170% a bleidleisiodd
56.5%Portread o'r etholaeth
Sedd mewn ardal wledig sy’n ymestyn ar draws rhan fwyaf o ganolbarth Cymru. Mae'r etholaeth yn cynnwys y trefi Aberhonddu, Llandrindod a Llanfair ym Muallt, cartref y Sioe Frenhinol.
Amaeth yw'r cyflogwr mwyaf ac mae gan yr etholaeth nifer o fusnesau bach. Dyma un o'r etholaethau gyda'r gyfradd uchaf o bobl mewn gwaith yng Nghymru sef 77% (69% yw'r cyfartaledd yng Nghymru) ac un o'r etholaethau gyda'r nifer lleiaf o bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra, sef 9% (12% yw'r cyfartaledd ar draws Cymru).
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, wedi cadw'r sedd ers etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999. Yn etholiad 2011 enillodd hi 43% o'r bleidlais. Y Ceidwadwyr ddaeth yn ail gyda 33% o'r bleidlais, Llafur yn drydedd gyda 16% a Phlaid Cymru yn bedwerydd gyda 6% o'r bleidlais.